MISS. SARAH LEWIS. COLLINSVILLE, WEST TYRIN, SWYDD LEWIS, EFROG NEWYDD.

Yn Collinsville, West Turin, Swydd Lewis, Efrog Newydd, Mehefin 6ed, 1871, Miss Sarah Lewis yn 37 mlwydd oed.

Ei hafìechyd ydoedd y Darfodedigaeth. Merch ydoeäd i Mr. Owen, a Sarah Lewis, gynt o ardal y Bala, Sir Feirionydd, Gogled Cymru.

Cafodd y chwaer hon ei dwyn i fyny yn Eglwys Dduw, a pharhaodd yn aelod ffyddlon hyd y diwedd. Yr oedd o dymer dawel a thangnefeddus, yn naturiol, ac yr oedd gras wedi puro a phrydferthu llawer ar y dymer yma. Y Beibl ydoedd ei phrif lyfr; cyfeillachodd lawer a hwn hyd y diwedd. Y mae ei Beibl yn dwyn digon o brawfiadau o hyny. Casglodd nerth o'r gwirionedd i beidio grwgnach.

Er mor faith, a phoenus oedd ei chystudd, y mae ei bywyd tawel, cyson a thangnefeddus yn seiliau pur gryfion i ni obeithio ei bod wedi dibenu ei gyrfa mewn tangnefedd.

Yr ydym yn cyflwyno yr adnod hono i sylw ei chyfoedion ieuainc sydd wedi eu gadael ar ol. "Ystyr y perffaith ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gŵr hwnw fydd tangnefedd." Gadawodd dad a mam oedranus, a lluaws o berthynasau i alaru ar ei hôl.

Dydd Iau, yr 8fed, daeth tyrfa luosog ynghyd i hebrwng ei chorff i dŷ ei hir gartref yn nghladdfa Turin. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. Lewis Williams a'r Ysgrifenydd.
RlCHARD ISAAC.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1872.