MR. GRIFFITH OWENS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 18ed, 1871, yn Floyd, Mr. Griffith Owens, yn 90 oed.

Daeth i'r wlad hon o Leyn, sir Carnarvon, Gogledd Cymru, tua 37 o flynyddau yn ôl, sefydlodd yn Floyd, ac yma y bu hyd ei farwolaeth.

Yr oedd yn aelod gyda'r T. C, yn ffyddlon tra parhaodd ei nerth, ac yn ei ddyddiau olaf pwysai ei enaid ar Iesu Grist - dywedai fod Iesu yn ddigon.

Tad ydoedd i Mrs. James Jones a Mrs. Richard Thomas, Cheese Factory, Floyd, a Mrs. Griffîth Jones, Utîca.

Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parchn. Thomas Williams, Remsen, a J. R. Griffith, Floyd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1871.