MRS. CATHRINE FOULKES ROBERTS. FRIESLAND, COLUMBIA, WISCONSIN.

MAI 15fed, 1871, yn 83ain mlwydd oed. Catrin Fowc, fel ei gelwid ac yr adwaenid hi yn bell ac agos; oblegid yr oedd hi mor Gymroaidd yn ei phob peth fel nas gallasai ffurf Saesonig lynu hyd yn oed wrth ei henw.

Ymfudodd hi a'i theulu o Blaen y cae, Llanddeiniolen, Sír Gaernarfon, Gogledd Cymru, i'r Wlad hon yn 1844, ac ymsefydlasant yn y gymydogaeth hon. Yr oedd yn mhlith y rhai cyntaf o'r Cymry a sefydlodd y rhan hon o'r Dalaeth. Yr oedd yn ddigon hen yn ôl cwrs y byd i'w adael ers blynyddau, ond er ei bod yn hen yr oeddym yn ei chladdu o ganol ei defnyddioldeb.

Y mae y rhan luosocaf o hen bobl wedi marw i fywyd defnyddiol yn mhell cyn iddynt feirw, ond am dani hi, ni bu erioed yn fwy defnyddiol nag oedd cyn iddi gael ei chyfyngu i'w gwely; ni wn pa mor ddefnyddiol oedd i'r eglwys hon - pa mor rymus oedd ei hesiampl. Yr oedd rhywbeth ynddi oedd yn siarad llawer o blaid gwir grefydd. Yr oedd hi bron yn ddall er ys 20ain mlynedd, eto nid oedd neb a fyddai yn ein plith mor gyson, neb a fyddai bob amser ond y hi.

Os na byddai yn y Capel credai pawb ei bod yn glaf, ymholid yn union ar riniog y Capel, beth sydd yn bod ar Catrin Fowc? Ni ddeuai hi i'n plith i ddangos ei hun, nac i weled neb arall, deuai yno i addoli. Os gweddio y byddem, byddai hithau yn gweddio; os na byddai digon i gynal y cyfarfod gweddi neu neb i ddiweddu y society ar gychwyn yr achos yma, cymerai ran gyhoeddus yn hollol ddirodres.

Os canu y byddem canai hithau, canai fynychaf a phob gewyn ar waith; os na allai ganlyn y mesur bob amser ni ddrysai y gerddoriaeth. Yr oedd y fath gyd-ddealltwriaeth rhyngom a'n gilydd fel nad oedd perygl i ddim o'r fath gymeryd lle.

Os pregethu y byddem, teimlai fod ganddi rywbeth i'w wneyd yno i yrru yr hoel adref; gwyddai yn dda pa bryd y byddai yr hoel fawr yn cael ei gyru i dre. Nid oedd ond ychydig fiynyddau er pan y methai a dilyn yr Ysgol Sabbothol, er na welai i ddarllen gair. Cawsom y fraint o weinyddu y Cymundeb yma ers 15 mlynedd; nid ydym yn cofio ei cholli unwaith oddiwrth fwrdd y Cymundeb, ond y tro diweddaf, a'r tro diweddaf hwnw yr oedd hi wedi cychwyn i Gymundeb perffeithiach.

Yr oedd ynddi lawer o ddiffygion, ond meddai rinweddau a'u cuddiai o'n golwg. Enwaf un neu ddwy o linellau amlycaf ei chymeriad. Dyna un: nid oedd fawr iawn o hunanoldeb o'i chwmpas. Y mae pobl wedi myned yn hen, yn tyfu mewn hunan wedi iddynt beidio tyfu mewn dim arall. Ei geiriau olaf wrthyf oeddynt ac yr oeddynt yn nodweddu ei hoes, "Cefais y fraint o ddod i'r society yn 18 oed, a chefais fy nghynal hyd heddyw; nid oeddwn i yn gwybod dim pan ddaethum at grefydd; ni chynaliodd fy Nhad Nefol neb erioed mor anwybodus a mi - wyddwn i ddim: y mae yn rhyfedd iawn i un mor ddwl â mi gael ei chynal ryw lun gyda'i achos mawr heb fyned yn warth iddo."

Llinell arall amlwg ynddi, - Yr oedd yn hynod ddiragrith. Ni welais hi erioed yn rhagrithio bod yn sal; os gofynem iddi pa fodd y byddai, "O yr wyf fi cyn iached a'r gneuen; byddwn yn dda iawn oni bai yr hen galon yma. Unwaith gofynai un o'r hen frodyr air o'i phrofiad yn yr eglwys, dywedai hithau, "Nid oes dim ond dau beth ar fy meddwl i, cael Thomas adref o Califfornia, a gweled gwawr ar yr achos yma." Dywedai yr hen fìaenor parod, gan afael yn ei phenelin chwith, "nid ydyw profiad y chwaer mor anianol, y mae rhai wedi eu cofrestru yn y Beibl llawn mor anianoì:" "Y mae Joseph eto yn fyw."

Nid oedd ei phiofiad crefyddol byth yn uchel iawn, nid oedd ganddi fawr o ffynonau i sugno cysur o honynt. Ni allai ddarllen dim. Ofnai ei chrefydd bob amser. Ond ni welais neb mor hyderus yn marw na hi. Ei dymuniad oedd cael myned gartref. Ni buasem yn gwneyd sylwadau mor helaeth oni bai fod hanes crefydd yn y gymydogaeth, yn dal y fath gysylltiad a'i hanes, dechreuad a chynydd yr achos yn ein plith yn gydwauedig a'i hanes.
JOHN DANIEL.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1872.