MR. SAMUEL O. ROBERTS.
CHWEFROR 9fed 1871, yn Slatington, Pennsylvania, yn 34 mlwydd oed, Mr. Samuel O. Roberts.Mab ydoedd i Mr. Owen Roberts, Caeau cochion, Llandinorwig, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r Wlad hon yn y flwyddyn 1858, ac ymsefydlodd yn Slatington. Priododd gyda Jane, merch John a Jane Roberts, o'r lle hwn. Bu iddynt bump o blant, dau o'r rhai a'i rhagflaenodd i'r byd ysbrydol. Dyoddefodd gystudd maith a blin, gan gydnabod ei fod yn dyoddef tan alluog law ei Dad Nefol. Magwyd ef gyda chrefydd; a chafodd farw mewn llawn feddiant o honi.
Dyn distaw a thawel oedd; yr oedd mor ddistaw yn ei fywyd fel na cheid clywed nemawr am ei grefydd; ond, yn ei angeu dywedodd yn yr iaith fwyaf pendant "fod crefydd yn talu y ffordd, ei bod yn glir rhyngddo a'r orsedd," "y mae fy nghydwybod," meddai, "yn dawel; y mae wedi ei phuro; nid wyf yn dymuno byw er mwyn fy hun, ond er mwyn fy nheulu; ond yr wyf yn dawel i'w ewyllys Ef."
Y Darfodedigaeth oedd ei afiechyd.
Gwasanaethodd Eglwys y T. C. yn y lle hwn am 6 blynedd yn y swydd o Ysgrifenydd. Yr oedd yn ffyddlon gydag achos Iesu Grist.
Rhoddwyd gweddillion marwol ein brawd i orwedd, hyd fore y codi, yn mynwent y T. C. yn Slatington, a hyny ar yr lleg o Chwefror, pryd yr ymgasglodd tyrfa luosog i dalu eu cymwynas olaf i'n cyfaill. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Elias Owens, (A). Bellach nid oes genym ond ei adael yn ngofal yr hwn a ddywedodd, "A mi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf." "Barnwr y gweddwon a thad yr amddifaid," a amddiffyno ei weddw a'i rai bach.
J. R. R. Jones.