MR. EDWARD ROWLANDS. UTICA, NEW YORK.
Mehefin 15fed, 1871, yn Utica, New York, EDWARD ROWLANDS, yn 58 mlwydd oed, wedi cystudd byr ond trwm iawn.Mab ydoedd Edward Rowlands i Evan ac Ellen Rowlands, Llanegryn, Meirionydd.
Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Llanegryn, Symudodd i America tuag ugain mlynedd yn ôl, a bu yn aelod yn Eglwys Annibynol Utica am tua deunaw mlynedd.
Yr oedd yn ddyn tawel heddychol, yn hoff iawn o'i deulu. Mae wedi gadael gweddw a thri o blant amddifaid i alaru eu colled.