MRS. MARY PARRY, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
29ain Ionawr, yn Steuben, swydd Oneida, C. N., yn 70 mlwydd oed, y weddw Mary Parry, gynt o Gaer-Mur, Llanengan, swydd Gaernarfon.Ymfudodd hi a'i phriod, a 4 o blant, i'r America, yn y flwyddyn 1818. Bu farw ei dau fab ers tua 16, a'i phriod ers 10 mlynedd yn ol.
Ymunodd hi a'r Bedyddwyr ers 37 mlynedd. Addas i'w dywedyd, bu'r drengedig yn lleteugar i amryw o Weision Iesu Grist yn Nghymru, a hawsach oedd ganddi gyfranu na derbyn.
Ymddifadwyd hi o'i synhwyr i raddau pell y 3 blynedd olaf o'i bywyd.
Rhoddwyd ei gweddillion marwol i orwedd rhwng ei phriod a'i mab, Dr. Robert Parry, yn y gladdfa a berthyna i Ail Eglwys y Bedyddwyr.
Ar yr achlysur, darllenodd a gweddiodd y Parch. John Jones, a phregethodd y Parch. John Griffiths.