MRS. LAURA THOMAS. RACINE, WISCONSIN.
Mai 4ydd, 1871, yn Racine, Wisconsin, o'r darfodedigaeth, yn 48 mlwydd oed, Mrs. Laura Thomas, priod John L. Thomas, wedi hir gystudd.Daeth yma o Lanllyfni, Penygroes, Caernarfon, Gogledd Cymru, tuag 20 mlwydd yn ôl, a bu iddynt bedwar o blant, dau o ba rai sydd yn fyw.
Yr oedd Mrs. Thomas yn aelod ffyddlon o'r Eglwys Gynulleidfaol yma pan y bu farw.
Gweinyddwyd ar amser y claddu gan yr ysgrifenydd.
W. WATKINS.