MRS. ELINOR WILLIAMS. BLISSVILLE, VERMONT.

EBRILL 9fed 1871; yn nhŷ ei merch yn Blissville, Vermont, Elinor Williams, Caecorniog, yn 74 mlwydd ac 8 mis oed.

Bu yn wael am dros flwyddyn. Daeth i'r wlad hon o Landdeiniolen, Sir Gaernarvon, Gogledd Cymru, yn 1853. Claddwyd hi yn Middle Granville, Efrog Newydd, lle mae dau íab a merch yn byw.

Gweinyddwyd yn Blissville, gan yr ysgrifenydd; ac yn Middle Granville, gan y Parch. H. Davies.

Daeth at grefydd pan tua 18 oed, a chafodd gymorth i "ddal ei ffordd ac i ychwanegu cryfder." Yr oedd mewn gwirionedd yn un o rai "Rhagorol y ddaear." Meddai synwyr cryf, a syniadau eang a chywir am wirioneddau yr efengyl; a mynych y byddai yn mwynhau profiad nefolaidd. Un o'r pethau mwyaf dymunol ar y ddaear fyddai gwrando arni yn adrodd ambell i hen adnod, ac yn dweyd ei phrofiad.

Ni welais neb erioed yn fwy di-rodres gyda chrefydd, na neb yn mwynhau mwy o'i chysuron. Yr oedd o ran ei chymeriad crefyddol uwchlaw amheuaeth, yn meddwl pob un oedd yn ei hadnabod. Byddai yn achwyn tipyn weithiau; nid ar Ragluniaeth, O! na, canmolai ofal a thynerwch ei Thad nefol tuag ati; ond ar wendidau ei hen gorphyn. "Mae fy hen gorph," meddai, "wedi mynd yn hynod o ddiddefnydd erbyn hyn; ni wna na chanu na dim arall.

Bydd ambell i hen beniîl yn dod i fy meddwl yn y nôs, a byddaf yn teimlo awydd i'w ganu dros y tỳ, ond y mae yr hen gorph yn rhy wan i wneyd hyny, a goreu po gyntaf iddo gael ei roddi yn ei le ei hun."Bu farw mewn tangnefedd, gan deimlo fod y "Breichiau tragywyddol oddi tanodd."
R. V. GRIFFITHS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1871.