MRS. ELIZABETH WILLIAMS. BANGOR, LA CROSSE COUNTY, WISCONSIN.

Mai 31, 1871, yn Bangor, La Crosse County, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Williams, priod Mr. John C. Williams, yn 33 mlwydd, 10 mis a 21 o ddyddiau.

Merch oedd Mrs. Williams i Mr. Cadwalader Roberts yr hwn a ymfudodd i'r wlad hon flynyddau yu ôl o gylcboedd y Bala, Gogledd Cymru, ac ymsefydlodd ar y Bryn Mawr ger Utica, New York.

Dygwyd hi fyny mewn teulu creíyddol a than aden eglwys Dduw ae yr oedd yn aelod gyda y T. C, hyd yr amser yr ymunodd mewn cyfamod priodasol gyda Mr. J. C Williams, pryd yr ymunodd gydag ef mewn eglwys Annibynol.

Deallwn iddynt symud cyn hir ar ôl priodi i Efrog Newydd ac ymuuo gyd a'r eglwys Annibynol yn llth Street yr hon oedd y pryd hyny dan ofal y Parch. E. Griffiths. Oddi yno ychydig gyda thair blynedd yn ôl symudasaut i'r ardal hon a derbyniwyd hwy trwy lythyrau yn aelodau o'r eglwys Gynulleidlaol yn Bangor, lle y parhaodd yn aelod dichlynaidd a rheolaidd hyd derfyn ei hoes.

Ar 26 o Fai rhoddodd enedigaeíh i faban yr hwn fu farw y 28ain, ac yn ôl dim oedd yn ymddaugos yn allanol yr oedd hi ar wellhad hyd 31ain, pryd y cyfnewidiodd yn sydyn ac annisgwyliadwy yn y prydnawn ac erbyn 7 yn yr hwyr yr oedd yr ysbryd wedi myned at Dduw yr hwn a'i rhoes. Yr oedd yn dawel a dirwgnach yu ei chystudd. Dywedai ei bod yn foddion i ewyllys ei Thad nefol ac nad oedd am fyw ond yn uníg er mwyn ei phriod a'i merch y rhai oedd yn adael ar ôl.

Gweinyddwyd ar achlysur ei chluddedigaeth gan y Parchn. D. Hughes a R. Evans, Cambria, a'r ysgrifenydd.
EI HATHRAW YN YR YSGOL SABBOTHOL.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1871.