MR. GRIFFITH WILLIAMS. PENYCAERAU, REMSEN, NEW YORK.
Mab ydoedd Mr. Williams i Robert Williams o blwyf Llanor, sir Gaernarfon. Gogledd Cymru.Ymfudodd i'r wlad hon pan oddeutu 21 ac yn fuan ymbriododd gyda Gaenor merch i Mr. Humphrey Williams a'i briod o'r Cefn Gwyn, Bryncroes, sir Garnarfon - ymsefydlasant yn mhlwyf Remsen, yn agos i gapel Penycaerau, lle yr ymunasant mewn cyfamod gyda'r eglwys T. C. i wasanaethu yr Arglwydd, a lle y buont am flynyddoedd lawer yn cydgynal yr achos.
Bu ganddynt bedwar o blant o ba rai mae dau yn fyw ac mewn sefyllfaoedd cysurus.
Dewiswyd gwrthrych ein cofiant yn ddiacon yn yr eglwys, yr hon swydd a wasanaethodd yn ffyddlon dros ugain inlynedd. Da genyf allu dweyd mai nid darlun o flaenor a gafodd eglwys Penycaerau yn G. Williams - er nad yn siaradwr mawr oherwydd byddai yn meddwl unwaith nieu ddwy beth a ddywedai; ond pan y siaradai byddai yn werth rhoddi clust o ymwrandawiad iddo.
Ni wrandawaî ac ni charai chwedlau; ond yr oedd yn fedd i gyfrinach yr hyn sydd anaml ì'w gael yn y dyddiau hyn. Fel cymydog yr oedd yn barod ar bob galwad, - fel dyn yr oedd yn hynaws - ac fel Cristion yr oedd ei weithredoedd da yn disglaerio.
Daeth i feddwl ei fab ac yntau i symud o Benycaerau i ffarm yn ardal Nant, plwyf Steuben. Bu yn flaenor yn yr eglwys hon am wyth mlynedd. Dyn gweithgar a gofalus ydoedd mewn perthynas i bethau y bywyd hwn, a daeth i feddiant o ran helaeth o hono; ond hyderwn ei fod yn fedddianol ar drysor mwy gwerthfawr na holl drysorau daearol.
Collodd ei briod oddeutu 25 mlynedd yn ôl, bu fyw gyda ei fab a'i ferch yng nghyfraith yn gysurus iawn.
Yn ei salwch diweddaf nis gallodd ddweyd ond ychydig gan rym ei ofid, ond bu farw mewn tanguefedd Awst 5ed, 1871 yu gyfiawn o ddyddiwu yn 74 mlwydd o'i oedran. Ar y seithfed ymgasglodd tyrfa luosog i hebrwng ei ran farwol i fynwent Penycaerau, a gorwedd yno wrth ochr ei briod hyd ganiad yr udgorn y dydd diweddaf.
Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parchn. Thomas Williams, Remsen, a James Jarrett, Utica. Ei hen gyfaill.
RICHARD E. ROBERTS.