MRS. MARY WILLIAMS. GOMER, OHIO.
Bu farw Mrs. Williams, Tachwedd 5ed, 1871, yn 70 o flynyddau a 34 o ddyddiau o'i hoedran.Ganwyd hi Hydref 2ail, 1801, yn y fan a elwir Eithin Duon, Llanddeiniolen, sir Garnarvon.
Merch ydoedd i Hugh Williams a Mary ei wraig. Symudasant pan oedd hi yn bur ieuanc i le o'r enw Carweddus, plwyf Llanrug.
Ymunodd mewn priodas ar yr 8fed dydd o Ragfyr, 1824, efo Morris Williams, Cae'r-ffridd, Llandwrog. Buout yn byw yn yr Hen Wlad hyd y flwyddyn 1828 pan y symudasant i'r America.
Darfu yr ymadawedig ymuno â chrefydd yn yr Hen Wlad efo'r Wesleyaid yn nghapel Ty'n Lôn, Llandwrog. Darfu iddynt sefydlu yn state New York, yn mhlwyf Remsen, Oneida County, hyd y flwyddyn 1832, pan y symudasaut i state Ohio. Sefydlasant yn Columbus, Ohio - yr oedd Columbus yu ei babandod y pryd hyny efo chrefydd yn mhlith y Cymry.
Darfu i hen wr o'r enw Williams a'i deulu symud o'r Hen Wlad tua'r ílwyddyu 1832, pa rai oedd yn perthyn i'r Independiaid. Byddai yr ychydig Gymry yu cyfarfod yn nhŷ Mr. Williams i gadw cyfarfod gweddi ac ysgol Sabhothol, a byddai yr ymadawedig yn ffyddlon iawn i lanw ei lle yn y cwrdd a'r ysgol - a dyna ddechreu achos crefydd gan y Cymry yn Columbus.
Yn y gwauwyn canlynol yn 1833 darfu i'r ymadawedig a'i teulu sef ei phriod a'i phlant symud i blwyf Radnor, Delaware County, a buont yn cyfaneddu yno hyd 1839 pryd y symudasant i Gallia, plwyf Raccoon, sef ardai Ty'nrhos pryd nad oedd gan yr Independiaid 'r un achos Cymreig - a darfu i'r Cymry trwy eu ffyddlondeb î godi capel a chael y Parch. John A. Davies yn weinidog. Yr achos iddynt ymadael a'r Wesleyiaid Saeson oedd, fod y cwrdd Cymreig yn nes atynt, ac fe'i perchid tn fawr gan y brodyr a'i chwiorydd a'i chymdogion, - mae rhai ohonynt yn dystion byw hyd heddiw.
Yn y flwyddyn 1852 darfu iddynt symud i Putnam County a sefydlu yn ardal Leatherwood a buont yno hyd 1869, pan y symydasant i Kansas, a buont yn cyfaneddu yno ddwy flynedd.
Tua dechrau Gorphenaf, 1871 cymerwyd hi yn glaf gan y gwalldreuliad (dyspepsy). Bu yn ymboeni ar amserau dros 40 mlynedd gan y cystudd hwn - byddai yn dweyd yn aml na byddai ddim i gael gwella, a'i dymuniad yn fawr oedd i gael dod yn ôl i Ohio i gael ei chladdu yn ymyl ei merch - darfu i ni benderfyny dod yn ôl a chyraeddasom i dŷ ein mab hynaf William ar y 19eg o Hydref, a dywedai ar ôl cyraedd ei bod wedi cael ei dymuniad.
Byddai bob amser pan yn magu ei phlant yn gofymn bendith ar eu bwyd pan na byddai ei phriod gartref, a bob amser yn cadw dyledswydd efo'r plant, a chafodd y fraint o weled ei phlant i gyd efo crefydd Iesu Grist - a dywedai yn aml pan yn tynu at derfyn ei hoes fod y Tad Nefol yn hir heb ei chymeryd adref - ond bore y 5ed o Dachwedd gorphenodd ei gyrfa mewn llawenydd, ac heb dynu cwmwl ar achos Iesu Grist tra yn nhaith yr anialwch.
Hebryngwyd ei gweddillion marwol i fonwent y teulu gan dyrfa luosog - gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan ein gweinidog a thraddododd bregeth angladdol y Sabboth canlynol.
Ei phriod galarus, MOSES WILLIAMS, Leatherwood.