MR ROBERT J. WILLIAMS. BROOKFIELD, MISSOURI.

GELWIR arnom i gladdu y marw allan o'n golwg yn aml yn y byd hwn, ond er hyny melus genym gofio am ein cyfeillion ar ôl iddynt ein gadael.

Yr oedd gwrthddrych hyn o gofiant yn fab i John a Sarah Williams, Bryniau, plwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Cafodd ei ddwyn i fyny o dan addysg grefyddol, ac ymunodd a'r eglwys pan yn 18 mlwydd oed.

Symudodd Mr. Williams i'r wlad hon yn Mawrth, 1866, a daeth ei wraig drosodd yn mhen y ddwy flynedd. Bu yn gweithio am dymor yn New York Mills, ger Utica, New York, ond dwy flynedd yn ôl symudasant i Brookfield, Missouri, yn yr hwn le y buont fyw yn gysurus hyd ymadawiad Mr. Williams a'r fachedd hon, yr hyn a gymerodd le Awst 23ain, 1871, yn 49 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Brookfield ar y dydd canlynol.

Nid oes lawer i'w ddyweyd am y cyfaill ymadawedig, mwy na'i fod yn ddiwyd a ffyddlon ymhob peth, a hyderwn ei fod yn byw yn awr yn y wlad sydd heb ofid o un math ynddi, a chofiwn eiriau yr apostol, "Ffydd y rhai dilynwn gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwy."
R. R. O.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1872.