MRS. ELLINOR WYNNE. MARTINSBURGH, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
RHAGFYR 17eg, 1871, yn Martinsburgh, Swydd Lewis, Efrog Newydd.Bu farw Mrs. Ellinor Wynne, yn 80 mlwydd 1 mis a 6 diwrnod oed.
Ei hafiechyd ydoedd, math o ddarfodedigaeth. Ni bu yn analluog i gerdded o gwmpas ond ychydig, disgynodd i'r bedd íel ysgafn o ŷd yn ei hamser.
Ymfudodd hi a'i theulu i r Wlad hon o Laniestyn, Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1830.
Merch ydoedd i William Roberts a Mary Williams, Tŷ Mawr, Mynytho, plwyf Llangian, Lleyn. Mae yn ymddangos ei bod wedi ei dwyn i fyny gan rieni crefyddol; yr oedd ei thad a'i mam yn aelodau gyda'r T. C. Fe gafodd ei phlant bob mantais i fod yn grefyddol, a allasai eu rhíeni roddi iddynt ar y pryd.
Ymddangys nad oedd plant Crefyddwyr yn cael eu magu yn yr eglwys fel y maent yn awr; felly yr oedd gwrthddrych ein sylw yn 27ain mlwydd oed pan yr ymunodd ag eglwys y T. C.; ond wedi ymuno gwnaeth broffes ddifwlch o'r Gwaredwr hyd angeu.
Cafodd lawer o anfanteision i fyw bywyd crefyddol, wedi dyfod i'r wlad hon, yn neillduol yr 20 mlynedd diweddaf o'i hoes: trwy ei bod yn cael ei hymddifadu o foddion gras yn yr iaith Gymraeg gyda chysondeb. Cyn belled ag yr ydym yn alluog i farnu, yr oedd yn Israeliad yn wir yn yr hon nid oedd twyll. Roedd yn caru yr Arglwydd Iesu, ac yn caru ei achos, yr oedd yn caru gwneyd yr hyn a allai er llwyddo ei achos, a chysur ei bobl.
Bu ei thŷ yn agored i dderbyn gweision yr Arglwydd trwy ei hoes; cafodd lawer pregethwr lety cysurus tan ei chronglwyd pan oedd yn byw yn Trenton; a'r un modd yn yr ardal y gorphenodd ei gyrfa ynddi; a gwnai y cwbl gyda sirioldeb, ac o'r galon; nid oedd dim yn ormod ganddi er gwneyd gweision yr Arglwydd yn gysurus, Diamheu genyf ei bod wedi huno yn yr Iesu, a'i bod yn awr yn derbyn y wobr y mae mab Duw ei hun wedi ei chysylltu â gwneyd cymwynas iddo er mewn cysylltiad a'i achos.
Bu farw yr amser a nodwyd heb fod yn alluog i ddyweyd llawer oherwydd ei gwendid corphorol. Bu farw mewn tangnefedd, ac mewn goaith bywyd tragywyddol. " Y cyfiawn a obeithia pan y byddo marw."
Gadawodd briod ar ôl, wedi bod yn cydfyw 58 o flynyddau, i alaru ar ei hôl weddill ei daith. Yr Arglwydd a ofalo am dano yn ei hen ddyddiau, ac a fenditho yr amgylchiad iddo ef a'r ddwy ferch sydd yn aros, er eu gwneyd yn barod i'w dilyn, i fwynhau yr un bywyd ag y mae hithau yn fwynhau.
Rhoddwyd yr hyn oedd farwol i orwedd yn mynwent Pen y graig, hyd foreu'r adgyfodiad. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr amgylchiad, gan y Parch. Thomas Williams, Remsen.