MR. DAVID R. DAVIES. HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 16eg, 1872, yn ei gartref ger Holland Patent, Swydd Oneida, New York, o'r cryd melyn-du, Mr. David R. Davies, yn 53 mlwydd oed.Bu am rai blynyddau yn dioddef yn ngafael yr anhwyldeb hwn, nes o'r diwedd y profodd yn angeuol iddo.
Ganed ef yn mhwyf Llangwnan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd gyda'i rieni i'r wlad hon pan yn saith mlwydd oed. Ymsefydlasant yn Remsen a'r cyffiniau. Yr oedd ei dad yn un o'r gymeriadau hynod oedd yn nodweddu llawer o'r tadau Methodistaidd, pan oedd achos crefydd yn ei fabandod yn mhlith Cymry Oneida.
Adnabyddid ef wrth yr enw "Sion Dafydd Dduwiol." Dichon fod y cymeriad duwiol yn cael ei roi wrth ei enw gan rai mewn gwawd, a chan eraill er ei wahaniaethu oddiwrth eraill o'r un enw, ond nid oedd heb ei lawn ystyr yn mywyd yr hen bererin; canys yr oedd tystiolaeth yn mhob cydwybod a'i hadwaenai ei fod yn dduwiol, ac yn dduwiol iawn.
Gweddiau lawer dros ei blant gan eu hanog i ymofyn am grefydd, ac yn enwedig dros ei fab Dafydd, ond heb gael gwrandawiad i'w weddiau yn nychweliad ei fab, yn ei oes.
Ymbriododd Dafydd â Margaret, merch i hen bererin duwiol o'r enw Hugh Michael. Yr oedd hi yn ferch grefyddol, ac felly yn symbyliad arno yntau yn yr iawn gyfeiriad. Ond er y cyfan parhau yn hollol anystyriol o'i gyflwr fel pechadur colledig ger bron Duw, yr oedd hyd o fewn tua thair blynedd-ar-ddeg yn ôl, bryd y cafodd gweddiau ei dad eu gwrando ar ei ran.
Er ein bod yn credu iddo gael ei ddychwelyd at Dduw mewn atebiad i weddiau ei nain dduwiol, er hyny y mae yn eglur mai trwy foddion y dygwyd hyny oddi amgylch. Yr hyn a fu ynfoddion er eiddwyn i "ystyried ei ddiwedd " oedd ymarweddiad duwiol ac ymddyddanion crefyddol merch ieuanc o'r enw Anne Williams, yr hon a gafodd loches o dan ei gronglwyd am ysbaid adfeiliad ei "daearol dy" o dan ffeithiau y darfodedigaeth. Yn y cyfamser aeth i Gymanfa i Remsen, a bu pregeth y Parch. William Roberts, D. D., ar y testyn "Crea galon lan ynof, O Dduw," yn foddion fel yr ydym yn credu o'i lwyr ddychweliad. Mynych ei clywid yn coffau y testyn yn ei weddiau, a'i brofiadau ar ôl hyny. Yr oedd o dymer naturiol frwd, yr hyn a barai ei fod a'i holl egni gyda pha beth bynag yr ymaflai ynddo.
Bu yn weithgar a llafurus gydag achos ei Dduw, dros ysbaid ei daith fer o bererindod, ond trwy ei fod wedi esgeuluso bore ei oes, ni bu o'r defnydd a'r gwasanaeth a allasai fod. Yr oedd yn ofid mawr iddo trwy ei oes grefyddol na buasai wedi cysegru bore ei oes yn ngwinllan ei Dduw. Cyngorai lawer ar ieuenctyd i ymofyn am grefydd yn ieuanc gan gyffesu gyda theimlad ei fod ef wedi esgeuluso yr adeg. Cafodd lawer o groesau a thymesfloedd dros ysbaid ei daith grefyddol, ond trwy ras y nefoedd, a chymorth ei wraig dduwiol cafodd nerth i ddal ei ffordd a chwanegu cryfder, nes glanio yn ddyogel yn y Ganaan nefol.
Medi 17eg, hebryngwyd ei weddillion marwol i gladdfa Holland Patent. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion T. T. Evans a Buck.
M. J. MEREDITH.