MRS. CATHERINE GRIFFITHS. CAE HOPE, BARK RIVER, WISCONSIN.

Ionawr 30ain, 1872, yn 52 mlwydd oed Mrs. Catherine Griffiths, Cae Hope, Bark River, Wisconsin.

Cafodd yr ymadawedig ei tharo a fit o'r parlys, ac er cymorth amryw feddygon galluog ni lwyddodd dim i liniaru ei phoenau nac atal ei chystudd hyd ddydd ei marwolaeth, yr hyn gymerodd le yn mhen wythnos wedi cael y ddyrnod.

Ymfudodd Mrs. Griffiths gyda ei phriod cyntaf John Jones, Cae Hope, Sir Caernarfon, i America yn y flwyddyn 1845, a sefydlasant yn ardal Bark River, lle y bu y ddau fyw yn gysurol tan wenau rhagluniaeth, nes i angau wneyd ymosodiad beiddgar a chymeryd John Jones oddiar chwareufwrdd amser bum mlynedd o flaen gwrthrych ein cofiant.

Mewn perthynas i nodwedd Mrs. Griffiths gallaf ddyweyd yn ddibetrus fod lluaws o rinweddau yn perthyn iddi. Yr ydoedd yn llawen mewn cymdeithas, yn hynod groesawgar yn ei thŷ, yn haelionus ac elusengar, yn dra hyddysg yn Ngair Duw. Yn hoffi ymddiddan am grefydd, wedi ei dwyn i fyny yn aelod parchus gyda y T. C. ac wedi dal ei ffordd a chadw ei choron hyd y diwedd.

Hefyd bu yn llafurus a ffyddlawn gyda dechreuad yr achos crefyddol Cymreig yn yr ardal. Gwelodd amser y byddai rhaid myned ddeudeg milltir oddicartref i gael pregeth Gymreig, ac ar un achlysur rhoddodd wahoddiad croesawgar i'r Parch. John. H, Evans i ddod i'w hardal i bregethu. Derbyniodd Mr. Evans fel gweinidog ffyddlawn yn ngwinllan ei Arglwydd, y gwahoddiad, ac aeth i dŷ Mrs. Griffiths i bregethu, sef y bregeth Gymreig gyntaf yn Bark River, ac y mae yma bregethu Cymreig o'r adeg hyny hyd yn awr.

Yr oedd ganddi barch neillduol i Mr. Evans. Hyd yn oed pan yn agor ei thy newydd yr oedd yn rhaid ei gael i draddodi pregeth ar yr achlysur.

Ymgasglodd tyrfa luosog i ddangos eu parch trwy hebrwng ei gweddillion i gladdfa Jerusalem - hen gapel log gynt - i dawel orphwys hyd nes y daw ei Phrynwr i'w hymofyn ato ei hun.

Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ gan yr ysgrifenydd, y Parch. Timothy Jones a'r Parch. John Williams yn yr addoldy ac wrth lan y bedd. Wedi canu, ymadawyd, a dymuniad ei cbymydogion a'i chydnabyddion oedd, heddwch i'w llwch.
SAMUEL HOWELS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1873.