MRS. ALICE RICHARDS, MARCY.
Cariad at ogoniant Duw, parch i coffadwriaeth y marw, yn nghyd ac addysg i'r hyw a ddylai fod mewn golwg genym wrth anfon o bryd i bryd i'r Cenhadwr ychydig o hanes ein brodyr a chwiorydd yrnadawedig.Merch ydoedd gwrthrych y cofiant hwn i John Owens, Tycroes, swydd Gaernarfon. Daeth hi a'i rhieni i America yn y flwyddyn 1800. Bu farw ei thad yn mhen tair wythnos ar ôl dyfod i mewn i Philadelphia; ond bu ei mam fyw hyd o fewn wyth mlynedd yn ôl. Trwy yr amgylchiadau a gyfarfu a'i theulu ei hun, symudwyd hi pan yn dair blwydd oed i deulu Willinm a Mary Daniel, ar ba rai y syrthiodd gofal ei dygiad i fynu; pan symudasant hwy i'r ardal hon daeth gyda hwy fel rhan o'u teulu; a bu mewn cariad a chyfeillach â theulu Mrs. Daniel hyd amser ei hymadawiad.
Pan yn un ar bymtheg oed priododd â Daniel Daniels. Bu iddynt bedwar o blant. Wedi ei farw ef yn mhen ysbaid o amser, priododd â Richard Richards; y mae un mab iddo yntef, yr hwn yn nghyd a'i dad a'r pedwar plentyn arall sydd mewn galar dwys; canys heblaw drylliad teimladau y maent yn ystyriol o'r golled a gawsant yn ei symudiad o'u plith drwy weinidogaeth angau.
Dechreuodd y chwaer hon ei gyrfa grefyddol yn y flwyddyn 1817; ymunodd mewn cyfamod eglwysig â'r Eglwys Gynulleidfaol yn Utica, mewn undeb â pha un y parhaodd yn ddigynwrf ac yn ddigwmwl hyd derfyn ei dyddiau. Ei phrif nodweddiad fel dysgybles i Grist oedd ei bywyd addas a gwastad. Nid oedd yn un dymherog mewn crefydd, ond dilynai egwyddorion yn fwy nag awelon, gofalai am beidio esgeuluso ei chydgynulliad, a meddianai raddau helaeth o gariad a chydymdeimlad.
Dydd Mawrth, Ebrill 17eg, cymerwyd hi yn glaf gan boen yn ei haelodau, ac yn fuan meddianodd ei hymysgaroedd, ond bu arwyddion ei bod yn debyg o wella yn fuan wedi y tarawiad cyntaf; ond ganol dydd, dydd Iau, ail afaelodd y cystudd gyda grym neillduol. Yn yr hwyr cymerais gyfleusdra i ymweled â hi, a chefais hi mewn dirfawr boen; er hyny cyfarchodd fi gyda y serchawgrwydd mwyaf a dywedodd fod yn dda iawn ganddi fy ngweled cyn ymadael. Yna dywedodd wrthyf gan gydio gafael yn fy llaw, "yr wyf yn caru Crist er's mwy na saith mlynedd ar hugain, ond y mae yn fwy anwyl genyf heno nag erîoed." "Oh mor werthfawr yw Cyfryngwr heno." "Nid oes arnaf ddim gofid i ymadael â'r byd, ond eisiau gweled fy mhlant yn fwy crefyddol a duwiol." Dydd Gwener yr oedd ei chystudd i raddau yn fwy araf, a gofynwyd iddi a oedd yn awyddus am wella? Atebodd, "Ewyllys yr Arulwydd a wneler." Oddeutu canol dydd, dydd Sadwrn, anadlodd yr anadl olaf ac ymadawodd yr enaid o'r tŷ pridd.
Prydnawn dydd Sabboth, cyn codi y corph allan, darllenodd a gweddiodd Mr. R.Griífiths; ac anerchodd yr ysgrifenydd y gynulleidfa a'r perthynasau oddiar Dat. 14 : 13, "Gwyn eu byd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd." Ac yna yn Saesneg pregethodd eu cymydog, Mr. Cass, oddiar Luc 23: 28, "Na wylwch. o'm plegid i."
Yna hebryngwyd ei chorph i orwedd yn y pentwr hyd forau caniad yr udgorn diweddaf.