JOHN HUGHES, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Y mae coffadwriaeth y dyn da yn hir-barhaol; trosglwyddir ei enw parchus, ei gymeriad sanctaidd, a'i fywyd llafurus a defnyddiol, i lawr i oesoedd dyfodol, gan gael eu darllen yn felus, eu hedmygu, a'u hefelychu gan Gristionogion yn mhen blynyddoedd ac oesoedd ar ol iddo gael ei gladdu. Y mae'r brawd anwyl uchod, yr hwn oedd adnabyddus i lawer o weinidogion y Bedyddwyr, ac eraill, yn mhell ac yn agos, wedi marw er's rhai blynyddau, bellach, ond gan na ymddangosodd mwy o'i hanes, na rhyw grybwylliad am ei farwolaeth ar y pryd yn y wasg Gymreig, nid ydyw eto yn rhy ddiweddar i roddi ychydig grybwyllion am dano o flaen derbynwyr y Wawr.Yr ydoedd fel dyn, Cristion, a phregethwr yr efengyl, yn teilyngu hyn oddiar law ei frodyr. A chan nad oes neb wedi ymgymeryd a'r gorchwyl, ymdrechaf fi wneyd hyny, yn ol fy ngwybodaeth am dano.
Mab ydoedd i John a Catherine Hughes ei wraig, o'r Garn, G. C, ac yno y ganwyd ef yn y flwyddyn 1797. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol iawn, a'i dad, os nad wyf wedi fy ngham-hysbysu, yn bregethwr cymeradwy gyda' r Bedyddwyr.
Cafodd gwrthddrych ein sylwadau ei argyhoeddi am ei gyflwr ysbrydol, pan oedd tuag un ar bymtheg oed, a bedyddiwyd ef ar broffes o'i ffydd, gan yr Hybarch Mr. Jones o'r Drefnewydd, pryd yr ymunodd a'r eglwys yn y Garn. Dechreuodd arfer ei ddawn i bregethu pan yn bedair ar hugain oed, a pharhaodd i fod yn ddefnyddiol yn y gwaith da hwnw yn y Garn, a'r eglwysi cylchynol nes iddo ymfudo i'r wlad hon yn y flwyddyn 1830.
Wedi tirio yn y byd newydd, arosodd am tua blwyddyn yn Efrog Newydd, gan bregethu i'r Cymry yn y lle. Oddiyno symudodd i Steuben, yn sir Oneida, lle y gwasanaethodd i'r eglwys am tua dwy flynedd, ac aeth oddiyno i South Trenton, yn yr un sir, a bu yn pregethu yno hefyd, am tua dwy flynedd arall. Yn yr amser hyn gwelodd fod maes mawr agored yn Marcy, ar y cyffiniau, ac yno y troes ei wyneb, gan wneyd gwaith cenadwr ffyddlon. Bu yn pregethu o dy i dy am gryn amser, gyda chryn raddau o lwyddiant. Yr oedd y trigolion yno yr amser hwnw yn wasgaredig, a'r Bedyddwyr heb wneyd nemawr i ddim ymdrech i daenu eu hegwyddorion yn eu plith; ond aeth y brawd Hughes a'r efengyl iddynt, a bu ei ymdrechion yn eu plith mor llwyddianus, nes y daeth galwad yn fuan am addoldy.
Ymgymerodd ein brawd a'r gorchwyl pwysig o gael un; cymerodd y cyfrifoldeb arno ei hun, a bu yn llafurio yn galed a ffyddlon, o dy i dy, o eglwys i i eglwys, ac o gymydogaeth i gymydogaeth, er cael arian i dalu am dano. O'r diwedd gorphenwyd yr adeilad, a chasglwyd y praidd gwasgaredig yn nghyd i'r un gorlan. Cynyddodd yr eglwys yn raddol, nes y daeth cyn hir yn ddigon cref i gynal gweinidogaeth reolaidd; a chan nad oedd y brawd Hughes, rywfodd, erioed wedi ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth, yr oedd yn rhaid i'r frawdoliaeth edrych allan am weinidog ordeiniedig.
Nid wyf yn cofio yn dda ar hyn o bryd pwy oedd ei gweinidog cyntaf; ond gwn fod yr Hybarch James Harris, gynt o'r Tabor, sir Benfro, a thad yr enwogion J. P. ac Alfred Harris, wedi bod yno am flynyddau, yn dderbyniol, gweithgar a llwyddianus, nes iddo yntau gael ei gasglu at ei dadau, mewn oedran teg. Yr oedd, yn nghof yr ysgrifenydd, eglwys fach go lewyrchus yn Marcy, ond trwy symudiadau, trwy farwolaethau, a thrwy lawer o wahanol bethau eraill, aeth y gorlan hon yn rhy analluog i gynal gweinidog, a'r canlyniad anocheladwy fu iddi cyn hir orfod cau y drysau.
Ond nis medraf edrych ar y weithred hon yn gystal ac amgylchiadau cyffelyb, rai blynyddau wedyn, mewn ardal arall yn yr un sir — ond ffrwyth difaterwch, ac anffyddlondeb anesgusodol, mewn ardal lle mae cymaint o Gymry, ac yn yr hon mae eglwysi perthynol i enwadau eraill yn dwyn profion o lwyddiant a chynydd parhaus. Bydd cyfrifoldeb Bedyddwyr Oneida yn annrhaethol fawr am sefyllfa bresenol achos Mab Duw yn y sir.
Oherwydd rhyw achos anhysbus i'r ysgrifenydd, fe symudodd ein brawd ei aelodaeth i'r eglwys yn ninas Utica, gyda pha un y treuliodd y gweddill o'i fywyd. Parhaodd i bregethu hefyd i'r eglwys hon, ac i eglwysi eraill yn y sir, yn achlysurol, fel y byddai galwad am dano, tra y daliodd ei nerth corphorol. Ond, fel yr oedd ei flynyddau yn amlhau, pallodd hwn yn raddol, a dadfeiliodd pabell frau ein brawd, nes ei gwneyd yn anghymwys i'r tenant i aros ynddi yn hwy, ac felly, ar y 24ain o Fai 1872, efe a ymadawodd i ogoniant. Claddwyd y gweddillion yn barchus, a daeth torf luosog o'i gymydogion a'i hen ffryndiau i'w hebrwng i'r bedd.
Pregethwyd ar yr achlysur yn effeithiol a dylanwadol gan Cefni, gweinidog yr eglwys yn Utica ar y pryd. Fel hyn, ar lethrau Marcy, y terfynwyd yr yrfa a ddechreuodd yn sir Gaernarfon. Yr oedd y brawd Hughes yn briod tyner, yn dad gofalus, darbodus, a serchog; yn gymydog tawel a heddychol; yn Gristion uwchlaw amheuaeth, ac yn bregethwr Ysgrythyrol a chymeradwy yn eglwysi ei enwad. Er nad oedd, efallai, yn feddianol ar yr hyn a elwir yn gyffredin yn "ddoniau hyawdl," llais peraidd a chanwr hwyliog,eto yr oedd yn bregethwr sylweddol. Roedd ei bregethau yn oleu, cryno, medrus a chwbl Ysgrythyrol.
Ar ol cael y pleser o'i wrando ddegau o weithiau, fy marn onest yw, ei fod yn bregethwr call, adeiladol a gwir dda, i'r rhai oedd yn caru gwrando gwirioneddau mawrion Cristionogaeth. A chan fy mod wedi treulio blynyddau yn yr un eglwys ag ef, gallaf hefyd ddwyn tystiolaeth i ffaith bwysig arall, na chefais i erioed ddim gofid, oddiwrth un ymddygiad angharedig o'i eiddo, ond buom byw gyda'n gilydd heb air croes erioed rhyngom. Dyna fwy nas gall llawer gweinidog ddyweyd am bregethwr cynorthwyol, yn neillduol pan fyddo llawer o wahaniaeth yn yr oedran a'r sefyllfa fydol. Yr oedd wedi darllen llawer yn yr Ysgrythyrau, ac wedi eu darllen yn fanwl, a gwnelai hyn yn sylfaen ei holl ddyledswyddau Cristionogol. Yr oedd felly yn dwyn mawr sel dros egwyddorion proffesedig, a neillduol ei enwad. Bu fyw a marw yn Fedyddiwr selog a thrwyadl, ac nid oedd unrhyw ddyfais, ymresymiad na dylanwad dynol yn ddigon cryf i'w siglo, na gwneyd iddo gompromisio ei egwyddorion; yr hyn sy'n esiampl deilwng o efelychiad yn yr amser llithrig hwn. Gwnaeth broffes dda yn moreu eiddyddiau, achadwodd y ffydd hyd fachludiad haul bywyd,gan huno yn ei breichiau.
Gadawodd ar ei ol weddw oedranus, ond gadawodd hi mewn amgylchiadau tymorol, uwchlaw angen. Ond gwell na hyny, er mor dda yw, mae ganddi obaith da am "olud gwell yn nghadw yn y nefoedd." Y mae yn aros hefyd deulu lluosog o blant, ond oll wedi tyfu fyny, ac wedi ymsefydlu yn y byd, gan droi mewn cylchoedd anrhydeddus, ac un o honynt yn aelod hardd a defnyddiol o'r eglwys Gymreig yn Utica. Bydded Duw y tad, yn Dduw i'r holl deulu byth, yw dymuniad calon.