MRS. ANN JONES, COEDTYNO, COLUMBUS, WISCONSIN.
MAI 3ydd, 1872, yn ardal Cohunbus, Wisconsin, yn 53 mlwydd oed ond 6 wythnos.Nid oedd iach ers dros 20 mlynedd : yr oedd cancer a tumor oddifewn yn ei blino ers amryw flynyddau.
Merch ydoedd i Thomas a Mary Evans, Cae-mwynen, Clynog, Arfon, Gogledd Cymru.
Priododd yn 1842, â John P. Jones. Daethant i America yn gynar yn 1845, yn un o'r sefydlwyr cyntaf yn yr ardal uchod. Yma y buont yn ffermio, ac yma eto mae ei phriod yn weddw ar ei hôl.
Aeth gyda ei phriod ryw 9 diwrnod cyn ei hymadawiad i Chicago, a chanol dydd Mai 2ail, tynodd y meddygon y Tumor, a rhwng 2 a 3 prydnawn dranoeth, bu farw.
Dranoeth ei hymadawiad, dygwyd ei rhan farwol adref; a thranoeth drachefn, gan nad ddiogel ei chadw yn hwy, er mai Sabboth ydoedd, fe'i hebryngwyd gan dyrfa luosog o'i chymydogion i dŷ ei hir gartref, yn mynwent Bethel, yr hon ar y cyntaf oedd ran o fferm Coedtyno, a gweinyddwyd ar yr achlysnr gan yr Ysgrifenydd.
O ran ei chymeriad, yr oedd o duedd garedig, ac yn hynod o onest a phlaen. Ni fu erioed yn wyllt. Er na chafodd y fraint o ddiíyn ordinhadau crefydd, yr Ysgoì Sabbothol a.y. nes oedd tua 18 mlwydd oed; eto gallai ddarllen yn ieuanc iawn, yn llawer gwell na'r cyffredin. Darllenodd lawer trwy ei hoes tra gallodd, ac yr oedd yn hynod o oleu yn y Beibì, ac mewn pynciau crefyddoL Yr oedd pethau crefydd yn trin ei meddwí er yn ieuanc, er mai yn mhen ychydig flynyddau wedi dod i America yr ymunodd a'r eglwys (Bethel.) Bu yn ddiwyd gyda chrefydd yn ôl y caniatai ei hafiechyd, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol.
Bu yn yr Ysgol o fewn saith wythnos i'w hangladd, er mor anfanteisiol, a gweinyddai yno yn ddeheuig fel athrawes, Ni honai brofiad uchel yn ei bywyd, nac yn ei hangeu, eto ymadawodd yn dawel, gan ffarwelio a'r meddyg, ei chyfeillion, a'i phriod. Yr oedd yn cael blas yn. ei dyddiau olaf, fel cynt, ar adnodau a phenillion. Buasai, oni bai ei phoen, yn tori aìlan unwaith yn neillduol i ganu:—
Pan chwerwaf dyfroedd Marah,
Pereiddiaf blas y pren; a.y.
Fel y bu fyw, felly y bû farw: bu fyw trwy ffydd, a hunodd yn yr Iesu.
JOHN J. ROBERTS.