MRS. ELIZABETH GRIFFITHS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 17eg, 1872, bu farw Mrs. Elizabeth Griffiths, gwraig y Parchedig James Griffiths, yn 66 mlwydd a naw mis oed. Bu yn breswylydd yn y ddinas hon yu agos i haner canrif, a gwelodd ei thyfiat er pan nad oedd ond pentref bychan.

Ymfudodd o Ogledd Cymru i Utica, yn 1824, ac yn fuan wedi hyny ymgyflwynodd yn aelod o'r Eglwys Gynulleidfaol Gymreig, ar yr hon yr oedd y Purchedig Dr. Everett yn fugail.

Yn 1833 ymbriododd a'r Parchedig James Grilliths, olynydd y Dr. Everett yu mugeiliaeth yr Eglwys, a chyda'r eithriad o ychydig o flynyddoedd yn swydd Cattaraugus, yma y mae y teulu wedi preswylio o'r dechreu.

Yr oedd Mrs. Griffiths o ran ei nodwedd grefyddol yn ostyngedig a difrifol, ac yn meddu ar synwyr helaeth a thymer hawddgar. Am yn agos i ddeugain mlynedd bu yn gydymaith ffyddlon i'w phriod (yr hwn sydd yn ei goroesi) yn holl brofedigaethau bywyd gweinidog yr efengyl. Perchid hi yn fawr gan gylch eang o gydnabyddiaeth, ac yn fwyaf felly gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Yr oedd ei salwch yn hirfaith a phoenus, ond dyoddefodd y cyfan yn dawel a dirwgnach.

Dechreuwyd y gwasanaeth drwy i'r Parch. J. R. Griffiths, Floyd, ddarllen rhanau priodol o'r Ysgrythyrau. Anerchodd y Parch. Dr. Fowler y gynulleidfa mewn araeth Saisoneg a'r Parch. R. Evans, Remsen, yn Gymraeg, a gweddiodd y Parch. M. Roberts, Remsen. Yna aethpwyd i'r Cemetery ac wrth roddi y corph yn y vault yn y Chapel lle y caiff orphwys hyd y mis Ebrill nesaf, dywedwyd ychydig eiriau ar yr amgylchiad gan y brodyr yn y weinidogaeth ag oedd yn bresenol, ac ymadawyd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1872.