MRS. WILLIAM M. JONES, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 26ain, 1872 yn mhlwyf Trenton, ger Remsen, yn nhŷ ei merch a'i mab yn nghyfraith Thos. J. Thomas, Mrs. Jones, gweddw y diweddar William. Jones, Commins, yn 85 mlwydd oed ar y laf o Awst díweddaf.Yr oedd yn aelod eglwysig yn y Capel Helyg. Arfon, tua 9 mlynedd cyn gadael Cymru - ac yn y wlad yma ers 44 mlynedd yr oedd yn aelod ffyddlon o Eglwys y Capel Ucha' Steuben. Yr oedd yn un addfwyn a thawel a thra ffyddlawn yn ôl ei gallu i'w chydgynulliad yn eglwys Dduw. Hunodd yn dawel yn yr Iesu, gan adael tystiolaeth eglur ei bod yn myned i dangnefedd.
Claddwyd hi yn mynwent Steuben Medi 28ain. Gweinyddwyd yu y gladdedigaeth gan y brodyr R. Ëverett, M. Roberts, John R. Griffith, Floyd, a Howell R. Jones, Steuben.