MRS. SUSAN E. JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Merch Evan a Mary Thomas, Gwyddal Uchaf, Uwchmynydd, cafodd ei bedyddio yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ar 29/5/1794.

Priododd John H. Jones (1788-1869) a Susannah Evans yn Eglwys Aberdaron ar 10/2/1815.

Buont yn byw yn Pen y Borth, plwyf Bodferin am gyfnod ac yno y ganwyd eu mab Evan a fedyddiwyd ar 2/2/1816 ac hefyd ganwyd efeilliaid iddynt, Sarah a Jonnett a fedyddiwyd ar 1/6/1817.

Yn 1818 ymfudodd y teulu i'r America gan sefydlu ar fferm yn ardal French Road yng ngogledd Steuben. Mewn llythyr a anfonodd gartref i'w frawd, John Williams, Pen y Graig, Bodferin yn 1830, mae Thomas W Jones, Fferm Rhydlios yn Boonville yn son am John Jones, Pen y Borth ac yn dweud ei fod yn un o'i gymdogion agosaf yn America.

Ymhen peth amser symydodd John H Jones a'i deulu i fferm yn Floyd, yn ymyl dinas Rome. Oddiwrth gyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 1850 gellir canfod ei fod yn berchen fferm gwerth dwy fil o ddoleri yn Floyd. Ganwyd 17 o blant i John a Susanna Jones ond fe fu rai ohonynt farw yn ieuanc.

Mae gweddillion John H Jones, Susan E Jones a rhai o'u plant wedi eu claddu ym mynwent Wright Settlement ger dinas Rome.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.