MRS. ELLINOR WYNNE. MARTINSBURGH, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
MERCH ydoedd yr ymadawedig i Lewis a Mary Cadwaladr, Bryn teg. Trawsfynydd Gogledd Cymru.Enw ei gŵr oedd John Owen. Ymfudasaht i'r wlad hon o Ffestiniog, oddeuta 12 mlynedd yn ol; a sefydlasant yn Fairhaven, Vermont; oddiyma aethant i Trenton; ac oddiyno i Bridgewater, lle bu farw ei phriod; wedi hyny symudodd i Utica, lle bu farw ei mab - Owen J. Owens. Darfu i hyn, ynghyd a cholli ei gŵr, a lluaws o brofedigaethau eraill effeithio yn ddwys arni, fel y syrthiodd i'r darfodedigaeth yn ddiarwybod iddi ei hun; nid ymddangosai yn ymwybodol o'i sefyllfa ond i raddau bychan iawn hyd ddydd ei marwolaeth.
Talodd ymweliad a'i chwaer yn Bridgewater, heb fwriadu aros ond ychydig. Yr oedd ei bryd pan yn cychwyn, ar gael dod gartref yn fuan; nis gallai gymodi a'r syniad i fod oddicartref. Yr oedd gohiriad pob diwrnod yn siomedigaeth ddwys iddi; ond diwedd ei harosiad yno fu, - marw; yr hyn a gymerodd le Ionawr 4ydd, 1872, yn 60 mlwydd oed.
Dechreuodd ei gyrfa grefyddol yn Ffestiniog oddeutu 23 mlynedd yn ôl. Ymddengys i'w dychweliad gael ei ddwyn oddiamgylch mewn dull effeithiol ac amlwg; felly yr ymddangosai i eraill; ac felly yr oedd i'w theimladau hithau. Yr oedd yn hyderus iawn am ddyogelwch ei chyflwr - gobeithiai bob amser - daliodd ddechreuad ei hyder yn ddisigl byd y diwedd.
Ar ddydd ei hangladd, trwy'r tywydd blin, daeth tyrfa luosog iawn ynghyd i amlygu eu parch í'w choffadwriaeth. Yr oedd ei chymeriad gyd a'i holi gydnabod yn gyfryw ag oedd yn haeddu wneuthur o honynt hyn iddi.
W. A. JONES.