COFIANT MR. JOHN W. ROBERTS, CRIGAU, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gwrthrych y byr-gofiant hwn ydoedd fab i Robert a Laura Williams o'r Gyfynys, plwyf Penllach, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Collodd ei dad ei fywyd, pan oedd ef yn lled ieuanc, trwy i feudy syrthio arno a'i ladd. Ei fam oedd wraig grefyddol, dra nodedig mewn rhinwedd a duwioldeb, yn aelod dros lawer o flynyddoedd yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, a bu farw yn y mwynhad o orfoledd yr efengyl.

Ymunodd Mr. John W. Roberts mewn priodas â Mrs. Anne Roberts o'r Ffridd, tua ' r flwyddyn 1789. Yn mhen o 5 i 6 mlynedd symudasant o'r Ffridd i'r Crigau, plwyf Llanſaelrhys, yn yr un swydd; ac yn mhen tua 5 mlynedd wedi hyny, ymfudasant oddiyno i America. Tiriasant yn Philadelphia yn y Gwanwyn, ac yn Hydref o'r un flwyddyn daethant i fynu i Steuben, a phrynasant y pryd hyny y tyddyn a alwasant y “CRIGAU," lle y buont yn aneddu hyd ddydd eu marwolaeth.

Fel yr oedd yn un o'r Sefydlwyr boreuaf yn Steuben, gwelodd lawer o gyfnewidiadau, gwelodd y Sefydlfa yn wan ac yn ychydig o rifedi, oll o Gymry yn Steuben, Remsen a Threnton a gynwysid yn fynych mewn un stafell lled fach yn addoli. Ond aeth yr un yn fil yn yr ystyr yma, a'r wael yn genedl gref. Tua 38 mlynedd yn ol, ryw bryd wedi i Mr. Wm. Pierce ddechreu pregethu i'w gyd-wladwyr, daeth ar ei feddwl droi ei olwg at dŷ a gwaith yr Arglwydd, a derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben, o'r hon y parhaodd yn aelod hyd angau.

Mwynhaodd iechyd dymunol trwy ei oes, ond fel yr oedd henaint wedi ei ddala, yr oedd y babell bridd yn gwaelu ac yn gwanychu yn fawr er's tro maith. Gallai ddarllen heb wydrau wrth oleu ddydd y llythyrenau manaf yn y Cenhadwr, hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farwolaeth. Byddai dra hoff o ddarllen y Beibl, a ddarllenai y “Cenhadwr” a'r “Dyngarwr” yn fanylaidd bob mis fel y deuent allan o'r wasg. Cwynai gan boen yn ei aeladau er's rhai blynyddau, ond parhaodd i allu myned i dy ei ferch dros y ffordd oddiwrth ei anedd (gweddw y diweddar Timothy Griffith, Ysw.,) hyd y 25ain o Ragfyr, 1843, pan yr ymwelodd â'i thy am y tro diweddaf. O'r pryd hyny gwaelodd yn dra chyflym. Nid llawer a ddywedodd yn ei ddyddiau a'i oriau diweddaf; eto soniai yn fynych am farw, a chanfyddai yn amlwg fod dydd ei ymddatodiad yn prysur nesau.

Dywedai yn aml nad oedd iddo fawr o gysur i'w ddysgwyl yn y byd hwn, a'i fod yn dymuno marw. Dywedodd ychydig cyn marw fod ganddo lawer i'w ddyweyd, fwy nag erioed o'r blaen, ond fod ei nerth wedi pallu ac nas gallai ddyweyd yr hyn oedd ar ei feddwl. Hunodd yn angau boreu ddydd Gwener, Mawrth 1af, 1844, yn 83 mlwydd oed, a chladdwyd y gweddillion marwol y dydd Llun canlynol, yn mynwent y capel Uchaf, pan y pregethwyd ar yr achlysur i dorf fawr o Gymry, gan R. Everett, oddiwrth Preg. 12:7, “Yna y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef.”

Y Cenhadwr Americanaidd ~ 1884 Tudalen 125.