MR. JOHN THOMAS, MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Yr hwn a fu farw Mehefin 19eg, 1872, yn 47 mlwydd, 5 mis o 6 diwrnod oed.Mab ydoedd John Thomas i'r diweddar Thomas ac Ellen Jones, Dafarn Dywyrch, Foel tryfan, swydd Garnaríon, G. C. Bu iddynt bump o blant - dau fab a thair merch. Bu ei frawd farw tuag 21 oed - mae ei dair chwaer yn fyw yn breseuol yn ardal Bethesda, swydd Gaernarfon.
Ymunodd a phobl yr Arglwydd yn heu gapel y Foel yn 1845 - derbyniwyd ef i gymundeb gan y Parch. David Grifliths, hynaf, Bethel, ar adeg cyfarfod y Sulgwyn yno, tymor o ddiwygiad, pan y derbyniwyd 11 eraill yr un pryd. Yr oedd John Thomas yn hynod gymeradwy gan yr eglwys yn y Foel er yn fachgen ieuauc, ond ar ôl yr adeg a grybwyllwyd bu yn ueillduol ddefnyddiol gyda'r canu, yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddi y bobl ieuainc.
Yn y flwyddyn 1851 symudodd i America, a sefydlodd ar y cyntaf yn ardal Fairhaven, Vermont, pryd nad oedd ond ychydig deuluoedd Cymreig yn yr ardal. Daeth drosodd a'i gymeriad crefyddol gydag ef, - nid oedd dim breintiau crefyddol Cymreig wedi eu sefydlu yn yr ardal, ac ni sefydlwyd dim eglwys nac un math o foddion rheolaidd am tua dwy flynedd ar ôl hyn, ond ambell gyfarfod gweddi ac ysgol Sabbothol ac ambell bregeth yn achlysurol - ond trwy yr holl amser anfanteisiol hyn, cadwodd ef ei gymeriad crefyddol mor ddisglaer a chymeradwy a phan yn nghanol breintiau crefyddol yn ngwlad ei enedigaeth.
Yn lled gynar yn y flwyddyn 1853, pryd yr oedd y lle wedi cynyddu ychydig, teimlai amryw o'r brodyr yno awydd am gael sefydlu eglwys, ac yn y teimlad hwn anfonwyd am y Parch. G. Griffiths, New York, a daeth yno yn ôl eu cais a sefydlwyd yno eglwys undebol, ac yr oedd efe yn un o'r rhai oedd yn gwneud i fyny yr eglwys hon yn ei ffurfiad cyntaf.
Yn mis Medi yr un flwyddyn symudodd i Middle Granville - nid oedd yr un eglwys Gymreig wedi ei sefydlu yno pan ddaeth efe yno, ond dechreuwyd cynal cyfarfod gweddi ac Ysgol Sabbothol, ac yn fuan daeth y Parch. Grifflth Jones, Fairhaven, i ymweled a'r ardal a sefydlodd eglwys undebol, ac yr oedd John Thomas yu un o sefydlwyr cyntaf yr eglwys hon hefyd. Neillduwyd ef yn Drysorydd yr eglwys, a bu yn ffyddlon i'r ymddiried osodwyd ynddo. Ymadawodd yn ôl i Fairhaven.
Ebrill 10fed 1854, ymunodd mewn priodas â Dorothy Jonee, merch i Samuel a Mary Jones, Llanberis, a chwaer i'r talentog John S. Jones, Fairhaven, - a bu ef a'i briod yn addurn i grefydd ac yn gymorth i'r eglwys yn Middle Granville yn ei cychwyniad. Ganwyd iddynt bedwar o blant - dau a fuont farw, ac mae dau yn fyw i alaru eu colled ar ôl tad tyner, gofalus a duwiol. Aeth yn ôl dros ychydig amser i Fairhaven a daeth yn ôl eilwaith i Middle Granville - ac ar ôl sefydliad yr eglwys Annibynol yno neillduwyd ef yn ddiacon ac ymaflodd yn ei waith o ddifrif, a pharhaodd yn ffyddlon a defnyddiol yn ei swydd hyd y flwyddyn 1871, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny o herwydd i rhyw resymau boddhaol iddo ei hun.
Yn 1862, adeiladwyd y capel yn Middle Granville, a neillduwyd John Thomas yn drysorydd y pwyllgor i adeiladu - a chyflawnodd ei swydd yn ei ddull manwl a chywir ef ei hun, er boddlonrwydd cyffredinol.
Yn 1863 sefydlwyd y Gymdeithas Feiblaidd yn y lle - neillduwyd ef yn drysorydd iddi - a bu yn dra gofalus a ffyddlon yn y swydd hono hefyd. Y peth oedd yn hynodi ei fywyd fwyaf neillduol oedd ei ffyddlondeb, ei gywirdeb a'i ddianwadalwch yn mhob peth, - yn y gyfeillach a'r ysgol, ac y mae y Beibl yn gosod pwys mawr ar fod yn ffyddlon - y ffyddlawn fydd aml ei fendithion - i'r ffyddlawn y mae coron bywyd - a'r ffyddlawn a wahoddir i lawenydd ei Arglwydd yn y diwedd - a gellir dweyd am John Thomas yn ngeiriau yr apostol ei fod ef yn un a gafodd druguredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn.
Gyda'i amgylchiadau yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diwyd, gofalus ac ymdrechgar - a diau genyf na chollwyd erioed briod ffyddlonach na thad tynerach ac anwylach o'i deulu nag fu ef.
Ei glefyd oedd rheumatic fever - cafodd ei gymeryd yn dra sydyn - ni bu yn gorwedd ond tuag wyth niwrnod, a dangoswyd pob caredigrwydd gan gymydogion a chafwyd pob cymorth meddygol oedd yn gyrhaeddadwy. Aeth o ganol ei boenau i wlad lle nad oes poen na govid o'i mewn.
Yn ei gladdedigaeth gweinyddwyd yn nghapel yr Annibynwyr gan y Parch. H. Davies, gweinidog y T. C, trwy bregeth effeithiol a phwrpasol.
Mae ei briod a'i blant yn dymuno cyflwyno eu diolchgarwch i'r ardal yn gyffredinol am eu cydymdeimlad a'u cymorth ar yr amgylchiad galarus.