MR. WILLIAM WILLIAMS. EMMETT, WISCONSIN.

Chwefror 1af, 1872, yn Emmett, Wisconsin, Mr. William Williams, mewn canlyniad i gwymp o tua 15 troedfedd a gawsai yn ddamweiniol yn ei ysgubor yn ddiweddar, yn 70 mlwydd oed.

Yr oedd yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Emmett. Yr oedd yn fab i Mr. William Morris, Llandwrog, sir Garnarfon, Gogledd Cymru.

Gadawodd briod ac 8 o blant.

Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y Parch. Timothy Jones, Waukesha. L. L.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1872.