MR. JOHN FRANCIS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

O ymyl Pwllheli swydd Caernarfon.

Claddwyd yn mynwent Pen y Caerau Mai 18fed 1873.

Glyn Roberts ~ Medi 2021.


MR. JOHN FRANCIS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mai 18fed, 1873; yn Green Point, ger New York, ar ôl cystudd byr yn 73 mlwydd oed.

Brodor ydoedd o ger Pwllheli, Sir Gaernarfon. Daeth i'r wlad hon 50 mlynedd yn ôl. Bu yn cartrefu yn Trenton ac Utica, ac ers rhai blynyddoedd yn Green Point, gyda'i ferch a'i íab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Griffith Roberts.

Bu ei briod farw yn Utica 10 mlynedd yn ôl. Bendithiwyd hwynt a 7 o blant - 6 o'r rhai sydd eto yn fyw.

Bu yn profíesu crefydd gyda'r M. C. am 47 mlynedd. Fel dyn, yr oedd o dyner ddystaw, heddychol, hynaws, a hynod ddigyffro; nid oedd byth yn gwylltio. Fel cristion yr oedd yn "fab tangnefedd," ac yn un o heddychol ffyddloniaid Israel. Byddai yn gyson yn moddion gras, ac yn wastad yn amserol; yn wrandawr astud a thyner. Yr oedd yn barod i gymeryd rhan yn nygiad yn mlaen yr holl waith - yn ddwys a difrifol yn ei weddiau. Rhyfeddai y "drefn fawr," a dymunai yn wastad am fod yn ei gafael.

Darllenai lawer ar ei Feibl a'r Cyfaill. Yr oedd yn dduwiolfrydig ei ysbryd; yn ddifrycheulyd ei gymeriad; heb ddim drwg gan neb i ddyweyd am dano. Yr oedd yn hynod yn nefoleidd-dra ei ysbryd y misoedd olaf o'i fywyd.

Cymerwyd ef i Penycaerau i'w gladdu. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn Green Point, Utica, a Phenycaearau, gan amrai weinidogion; a phregethwyd pregeth angladdol gan yr ysgrifenydd yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, yn New York, Mehefin 1af, oddiwrth I Ioan, 2 : 17.
H. PûWELL.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1873.