MRS. MARGARET ROBERTS, AMSTERDAM, MONTGOMERY, NEW YORK.

Ganwyd Margaret Roberts yn Ty'n-y-Nant, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1773. Collodd ei mam pan yn 15 mlwydd oed, a phan yn 16 oed derbyniwyd hi yn i aelod eglwysig gyda y Methodistiaid Calfinaidd.

Yn 26 oed, sef yn y flwyddyn 1799, ymunodd mewn priodas â John Roberts, a buont yn byw bedair blynedd yn yr Hirdre Fawr, ger Bodeiliog, a symudasant oddiyno i Ddeunant, a ganwyd iddynt 6 o blanl - tri o feibion a thair o ferched, a'r rhan luosocaf o honynt ydynt yn aros hyd y dydd heddyw. Yn y flwyddyn 1818 y gadawsant wlad eu genedigaeth a blodau y bedd ar eu penau, ac yr anturiasant tros y geirwon donau i'r America. Mordwyasant i Gaerefrog Newydd, ac oddiyno i Steuben a Remsen, a bu hi yn byw yno 12 mlynedd. Wedi claddu ei gŵr, ymfudodd oddiyno i Utica gyda ei mab William a Catherine ei merch, a hi a fu yno; yn cadw tŷ gyda William am un flwyddyn, ac j yn y flwyddyn hono, dan weinidogaeth y Parch. Wm. H. Thomas, cyfnewidiodd yn ei barn o barthed yr ordinhad o fedydd, ac ymunodd âg eglwys y Bedyddwyr; ac yn niwedd y flwyddyn hono hi a symudodd i lawr i Amsterdam, ac felly ymddifadwyd hi o foddion gras yn yr iaith Gymraeg, ond ymroddodd yn hollawl fater ei henaid ar Iesu Grist, gan gynghori ei phlant i ymbarotoi i gyfarfod â'u Barnwr cyfiawn, i'r hwn a cher bron yr hwn y bydd yn rhaid i ni yn fuan roddi cyfrif.

Ei chlefyd oedd dyfrglwyf ar y galon. Fe'i cymerwyd hi yn glaf ar yr 8fed o Dachwedd, a hi a barhaodd i waelu hyd y cymerodd ei henaid ehedfa i'r trigfanau fry at ei Hanwylyd ar y 24ain o lonawr, 1844, yn yr unfed flwydd ar ddeg a thriugain o'i hoedran. Mrs. Roberts oedd hynod o ffyddlon ac yn meddu teimladau hynod o fywiog ac effro. Cafodd chwech wythnos o gytudd trwm; er hyny yr oedd yn hynod o amyneddgar a theimladwy o'i rhwymau i fod yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddaioni tuag ati.

Ychydig o ddyddiau cyn ei marw y galwodd am ei mab Robert i ddarllen y 9fed bennod o Job ac i weddio gyda hi, ac fe ddaeth yn ddioed ac a ddarllenodd y bennod a nodwyd, ac er mor ddwys ei deimladau yn ngwyneb yr amgylchiad, wrth weled ei fam dan ddwylaw oerion angau, cafodd ei gynal ac ni a gawsom le i gredu fod yr Arglwydd yn gwrando gweddi ac yn ateb, pan oedd yn tywallt ei galon wrth orseddfaingc trugaredd ar ei rhan, ac i'r Archoffeiriad ffyddlon i'w dwyn adref yn dawel i ganu yr anthem dragywyddol "Iddo ef" am ei golchi yn ngwaed Aberth Calfaria. Hi a adawodd chwech o blant i alaru ar ei hol, tri o feibion a thair o ferched, y pryd hyny; ond ar y 3ydd o Fawrth ymwelodd yr Arglwydd â ni drachefn yn nhrefn fawr ei Ragluniaeth trwy gymeryd un o'i meibion, sef John, ar ei hol i'w gartref tragywyddol.

Ar y 26ain o Ionawr, sef dydd ei chladdedigaeth, ymgynullodd y bobl yn nghyd i hebrwng ei chorff gwael i'w gwely pridd hyd foreu yr adgyfodiad. Ar yr achlysur pregethodd y Parch. Mr. Hudson, gweinirìog y Bedyddwyr yn Amsterdam, oddiwrth Esaiah 3 : 10, "Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn, canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhant."

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1844.

d