MR. DAVID HUMPHREYS. WESTERN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 25ain, 1873, David Humphreys, yn 87 o'i oedran.Yr oedd wedi cael iechyd da hyd rhyw dair wythnos cyn marw ac achoswyd y cyfnewidiad y pryd hwnw trwy iddo gwympo o'r gwely. Brodor o Eifionydd, Arfon, Gogledd Cymru ydoedd ein hen frawd. Yr oedd yn gefnder â'r bardd anfarwol Dewi Wyn.
Daeth i America tua 50 mlyuedd yn ôl. Bu yn byw yn Western a Penymynedd, Efrog Newydd, ac yn awr er's amryw flynyddau yn agos i Remsen.
Bu iddo 8 o blant - mae 7 yn awr yn fyw - 27 o wyrion - ac 11 o orwyrion.
Bu yn dilyn crefydd flynyddau lawer a pharhaodd hyd y diwedd.
Hebryngwyd ei weddillion i fonwent Steuben dydd Llun canlynol pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr Hybarch Morris Roberts a'r ysgrifenydd.
Duw a amddiffyno ei weddw ac a fyddo yn Dduw i'w blant a'i wyrion.
ROBERT EVANS.