MRS. MARY JONES. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Merch Richard a Mary Thomas, Tir Bach, Bryncroes. Cafodd Mary ei bedyddio yn Eglwys y Santes Fair, Bryncroes ar 24ain o Ebrill 1780.Ymfudo i America yn 1795 gyda'i theulu a glanio yn Efrog Newydd ar y 25ain o Orffennaf.
Byw yn Efrog Newydd ac yna yn Philadelphia am gyfnod cyn symyd i blwyf Trenton ym mis Hydref 1804.
Yn 1805 priododd gyda John F Jones o'r Ffarm, Steuben.
Yn 1807 ymunodd gyda'r Cynilleidfawyr yn y Capel Ucha, Steuben.
Bu John F Jones farw ar 19/12/1851 yn 73 oed.
Bu Mary Thomas Jones farw ar 28/8/1873 yn 93 b,l 4 mis ac 8 diwrnod oed ac wedi bod yn aelod yn y Capel Ucha am 66 o flynyddoedd.
Mae gweddillion y ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Ucha, Steuben.