WILLIAM N. JONES, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Bu farw Chwefror 23, 1873, yn 69 ml. oed. Gyda chymysg deimladau yr ydym y waith hon yn cymeryd ein pin mewn llaw i groniclo ychydig gofnodion am ein hanwyl frawd ymadawedig. Teimlwn yn ddedwydd i dalu ychydig barch i gymeriad ag y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig genym ; ond y mae gwneyd hyny yn adfywio ein hiraeth am dano, ac yn agor o'r newydd yn ein mynwes yr archoll gawsom gan angeu yn ei farwolaeth. Fel plentyn gyda thad y teimlem yn ei gymdeithas. Pan fyddai arnom angen cyngor mewn amgylchiad dyrus, ato ef y byddem yn troi. Pan mewn angen cydymdeimlad mewn trallod, gwyddem pa le i'w gael; ac os byddai arnom angen cyfaill i ddweyd cyfrinach, gwyddem yn dda at bwy i gyfeirio.Ganwyd ef yn y flwyddyn 1804, yn Rhiwdar, plwyf Llangian, Sir Gaernarfon. Mab ieuangaf ydoedd i Richard Jones. Yr oedd ei rieni yn gyferiadau lled hynod mewn duwioldeb. Gellid clywed rhai o'i gydnabyddion, wrth amddiffyn crefydd, yn ngwyneb y cabledd deflid arni, yn dweyd, "Edrychwch ar fywyd Richard Jones." yr oedd ei fywyd ef yn rhoddi prawf ymarferol o'i gwerth.
Cymeriad lled hynod hefyd ydoedd ei daid, o du ei fam. Adwaenid ef oreu wrth yr enw, "Robert y Crydd." Mae yn debyg y byddai gweithdy y crydd yn y dyddiau hyny yn fan y byddai llawer o segurwyr yn crynhoi, a llawer o siarad ofer ganddynt. Ar bared shop Robert, mewen lle amlwg, y gwelid, mewn llythyrenau eglur, mai "Am bob gair segur a ddywed dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn." "Gwna yn llawen, ŵr ienanc, yn dy ieuenctyd."
Oddiwrth gymeriad ei henafiaid, yr ydym yn casglu iddo yntau, fel Timotheus, gael ei egwyddori yn dda mewn addysg grefyddol. Nid ydym, modd bynag, yn deall iddo gael yr un fantais ar addysg ysgol ddyddiol erioed; ond, er hyny, meddai addysg dda. Yr oedd yn ddarllenwr medrus, yn ysgrifenydd cywir, ac yn rhifyddwr da. Cyfansoddai emynau yn lled rwydd, a gwnai ambell i englyn yn awr a phryd arall. Yr oedd yn gyfarwydd yn y Saesonaeg fel y Gymraeg. Dengys hyn fod ganddo feddwl galluog, ac ysbryd llafurus, fel na fynai i lyffetheiriau anfanteision ei gadw yn nhir anwybodaeth. Da fyddai i ddarllenwyr ieuainc y Cyfaill gofio nad yw cyfleusderau ysgol, er eu bod yn dra manteisiol, yn hanfodol i feddu gwybodaeth a dysg. Cywilydd mawr i wr ieuanc, yn yr oes hon beth bynag, yw ymfoddloni mewn anwybodaeth, dan yr esgus gwael na chafedd ef ysgol. Yr ydym yn gweled fod dynion o feddwl a phenderfyniad llafurus, yn mhob oes o'r byd, yn esgyn i fyny, er fod eu llwybrau yn llawn o anfanteision. Cof genym am gyfreithiwr unwaith mewn adeg o gynhyrfiad, yn edliw i'w wrthwynebydd galluog, nad oedd ef ond mab i grydd tlawd. Yr atebiad parod a gafodd ydoedd hyn, "Pe crydd fuasai eich tad chwi, crydd fuasech chwithau." Mae gwir deilyngdod yn sicr o ddryllio y llyffetheiriau sydd am gadw dyn dan lywodraeth yr am- gylchiadau y mae ynddynt.
Yn y fiwyddyn 1827, ymfudodd ein brawd i'r wlad hon, a disgynodd gyntaf gyda'r hybarch James Owens, ger Remsen, yr hwn sydd dra adnabyddus mewn cysylltiad â hanes Methodiaeth America, oblegid efe oedd un o'r sefydlwyr cyntaf iddo, ac un o'r colofnau cryfaf dano, a diau genym y bu arosiad ein brawd dan ei gronglwyd yn fendith fawr iddo, oblegid gyda pharch diffuant y byddai yn coffâu am dano bob amser. Wedi hyny aeth i Utica, lle y dysgodd y gelfyddyd o naddu ceryg, yr hon a ddilynodd am flynyddau.
Yn dilyn ei alwedigaeth y cawn ef nesaf, yn Canada; wedi hyny yn y Talaethau Deheuol. Tra yno, ymosodwyd arno gan glefyd trwm, a gweinyddwyd cymaint o mercury iddo, fel nad ymddengys i'w effeithiau adael ei gyfansoddiad tra fu byw.
Wedi hyny dychwelodd i'r Dalaeth hon, a chawn ef yn gweithio am rai blynddoedd ar locks y Black River canal, fel foreman dan y contractor, Daniel B. Knap. Arweiniwyd ef trwy hyn i gyfeillach â Maria Louisa Knap, un o ferched y meistr. Esgorodd y gyfeiliach ar briodas yn 1841, ac ar fywyd dedwydd hyd ddiwedd ei oes. Ffrwyth y briodas ydoed un mab, yr hwn sydd yn benteulu er's blynyddau, ac yn fasnachwr gobeithiol yn Rome, ac yn Gymro da, ac yn grefyddwr yn yr un eglwys a'i dad.
Yn 1842, ymfudodd yn agos i'r dref hon, a phrynodd dyddyn, a bu fyw arno flynyddau. Rhan o'r tyddyn hwn erbyn heddyw sydd wedi ei feddianu gan y dref yn cemetery, ac yno y gorwedd ei gorph yntau. Yr oedd er's llawer o flynyddau wedi rhoddi amaethyddiaeth heibio, ac yn byw yn y dref. Gwan ydoedd o ran ei iechyd er's blynyddau. Cafodd ymosodiad ffyrnig ddwy waith yn ei oes gan yr inflammatory rheumatism, ac ni chafodd waredigaeth lwyr o hono hyd ei fedd. Yr oedd ei lungs hefyd yn afiach er's rhai blynyddau.
Boreu Sabboth, Chwefror ióeg, cymerwyd ef yn glaf iawn gan y pneumonia of the lungs, ac ar nos Sabboth, y 23ain, ehedodd ei enaid i gadw y Sabboth tragywyddol yn y nef. Y dydd Iau canlynol, talwyd y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Dr. Stryher, o'r dref hon, a'r ysgrifenydd, a chafwyd pregeth angladdol iddo gan y Parch. J. Jarrett, ar Sabboth ar ol hyny.
Yr oedd galluoedd cryfion ei feddwl, tynerwch ac addfwynder ysbryd, ac egwyddorion pur ei galon, yn enill iddo ragoriaeth a pharch yn mha gylch bynag y troai ynddo. Wrth i ni ystyried ei symudiadau tra yn dilyn ei alwedigaeth, a'r arferiad llygredig o'r diodydd meddwol yr oedd ei gydweithwyr yn yr oes hono wedi llithro iddo, a'r esgus dymunol oeddynt yn ei gael dros hyny yn y Dê, gan boethder yr hîn, a gwaeledd y clwfr, yr oedd yn rhaid i ddyn wrth egwyddorion sefydlog iawn i allu gwrthsefyll yr hudoliaeth; ond daliodd ef ei dir, a chadwodd ei gymeriad yn ddifrycheulyd.
Rhyfeddai y meistri wrth weled William bob amser yn sobr, a chyda'i waith. Meddyliodd un o honynt unwaith mai yr achos o hyny efallai ydoedd, ei fod yn ormod o gybydd i wario ei arian. Er boddloni ei hun ar hyn, gwahoddodd ef i'w dy un noswaith, a dygodd y ddiod feddwol ar y bwrdd, ac yfodd yn lled helaeth o honi ei hun, a chymellai yntau i wneyd yr un modd. Yfodd ychydig unwaith neu ddwy, wedi hyny gwrthododd yn hollol; a phan y gofynwyd ei reswm dros hyny, dygodd ddigon yn mlaen, yn seiliedig ar Air Duw,fel y cafodd y meistr eithaf boddlonrwydd beth oedd yn cymell William i beidio yfed. Dywedai na welodd yr un naddwr ceryg erioed o'r blaen yr un fath a hwn. Yr oedd hyn yn mhell cyn i achos Dirwest ddechreu.
Edrychwn arno bellach yn ei yrfa grefyddol. Yr ydym yn hyderus iddo gael ei egwyddori yn dda gan ei rieni duwiol; ond nis gwyddom iddo gael ei ddwyn i fyny yn yr eglwys er yn blentyn. Efallai iddo ddechreu ei fywyd dan yr oruchwyliaeth hono y mae rhai o'n tadau yn ei chofio, pryd y bernid yn beryglus dwyn plant i fyny yn yr eglwys. Pan yn 17 mlwydd oed, modd bynag, daeth yntau i chwilio am le yn nhy Dduw, yn nghapel y Nant, dan argraffiadau gobeithiol iawn, a dyna lle y bu ei drigfa byth er hyny. Mewn cysylltiad â rhyw eglwys y cawn ei hanes ar ol hyn, a phob amser gyda'i gydgenedl, pan fyddai mewn cyfleustra i hyny. Yn Pen-y-caerau y cawn ef gyntaf yn y wlad hon, yna yn Utica - wedi hyny mewn tai anedd, gyda chyfeillion gwasgaredig, yn agos i'r Afon Ddu. Ond wedi iddo ymsefydlu, cawn ef mewn undeb âg eglwys Rome, hyd ddydd ei farwolaeth.
Buan y dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys hon, a gweithiodd yn ffyddlawn ynddi hyd ei fedd. Meddai gymwysderau rhagorol i'r swydd hon, a defnyddiai hwy er adeiladaeth yr eglwys. Meddai well cymwysder i fugeilio eglwys nag ambell weinidog. Er y teimlai angen bugail yn mhob eglwys, eto teimlai fod y swydd ddiaconaidd yn meddu mwy o bwysigrwydd ac urddas nag a ddangosir iddi gan rai yn y dyddiau diweddaf yma. Nis gallai lai na chanfod, gan mai i gynorthwyo yr Apostolion y sefydlwyd y swydd hon, a chan fod yr un cymwysderau yn cael eu gofyn ynddynt ag a ofynir yn y gweinidog, mai nid i gasglu, cyfrif, a rhanu arian yn unig y gofynir cymwysderau felly. Teimlai yn wir ofidus wrth weled fod y zel a deimla rhai dros fugeiliaeth eglwysig wedi eu harwain i iselu y swydd hon i'r fath raddau, nes peri digalondid i lawer o frodyr gweiniaid yn y ddiaconiaeth, a pheri iddynt lwfrhau gyda rhan o'u gwaith; a chan nad oedd yn yr eglwysi hyny neb arall i'w gyflawni, y gwaith yn cael ei adael, a'r eglwysi yn nychu. Wrth ystyried natur a rhwymedigaethau ei swydd fel hyn yr arferai y dawn oedd ynddo, er cynydd yr eglwys, gan deimlo fod digon o waith i adeiladu yr eglwys, ag i bob swyddog fod ar ei lawn egni. Bendith fawr i eglwys Rome fu ei bresenoldeb am faith flynyddau. Byddai pwysau y gwaith bob amser yn disgyn ar ei ysgwydd ef. Nid rhyfedd, gan hyny, fod ein colled yn fawr, a'n galar yn drwm. Byddwn yn hir cyn gallu anghofio ei ysbryd mwyn a thawel, ei gyngorion doeth a phwyllog, a'i brofiadau efengylaidd.
Ymddengys i ni fod ei ragoriaethau amlwg yn gynwysedig:
1. Yn ei allu i "borthi yr wyn." - Meddai fwy o ddylanwad ar yr ieuenctyd na neb yn yr eglwys. Yr oedd yn hoff iawn o honynt, a gwerthfawrogai unrhyw foddion manteisiol a arferid atynt er cu llesâd a'u cynydd mewn gwybodaeth crefydd, a defnyddioldeb bywyd. Gallai eu canmol heb iddynt ymfalchio, a'u ceryddu heb eu digio, ac enill eu hufudd-dod heb eu gorthrymu. Yr oedd bywyd a newydd-deb yr ieuanc, llafur a chryfder y canol oed, a phrofiad a thynerwch yr oedranus, wedi cydgyfarfod ynddo.
2. Tynerwch ac addfwynder ei ysbryd. - Yr oedd y llinell hon o gymeriad ei Feistr yn amlwg iawn ynddo. Gallai gydymdeimlo â'r gwan a'r helbulus. Byddai yn dyner iawn o deimladau eraill. Dewisai ddyoddef ei hun, yn hytrach na rhoi achos i eraill ddyoddef.
3. Pwyll ac arafwch. - Gallai lywodraethu ei ysbryd ei hun, a thawelu ysbrydoedd cynhyrfus eraill. Llawer gwaith y gwelwyd yr ystorm yn tawelu wrth ei lais ef. Derbyniodd "ysbryd nerth, a chariad, a phwyll," mewn graddau helaeth.
Wrth ymdeimlo a'i lesgedd, barnai nad oedd ei ddiwedd yn mhell; ac yn ei ofal a'i awydd am lwyddiant yr achos, ceisiai ymryddhau i raddau oddiwrth ddyledswyddau ei swydd, fel y gallai rhai ieuangach nag ef ymaflyd ynddi. Ond gwerthfawrogid ei wasanaeth gymaint gan yr eglwys, fel na fynai er dim ei ddiosg, nes y deuai angeu at y gwaith. Ond mae ei ddiwrnod gwaith wedi darfod, a ninau yn cwyno yn hiraethus am dano.
Wele farn y Parch. Howell Powell am dano, ar ol iddo gael mantais lled dda i'w adnabod y blynyddau diweddaf:
"Yr oedd o gynheddfau cryfion, synwyr cyffredin da, yn wrteithiedig ei feddwl, yn helaeth ei wybodaeth, ac yn gall gyda phob peth; yn graff ei sylw, beirniadol ei feddwl, a chywir ei farn; cymedrol yn mhob peth, heb fod yn eithafol yn yr hyn y byddai fwyaf selog o'i blaid.
"Yr oedd yn dyner ei deimladau, ac yn foneddwr o ysbryd ac ymddygiad, ac felly byddai urddasolrwydd yn ei wedd, ei ymddangosiad a'i ymadroddion. Yr oedd yn siriol, ond nid yn ysgafn a gwageddog; yn ddifrifol, ond nid yn sarug; yn garedig, ac yn caru lletygarwch; yn hoff o gyfeillach, ac yn mwynhau ei hun yn fawr ynddi, ac yn ddoniol i wneyd eraill yn ddedwydd yn ei gwmni. Yr oedd ei dy yn wastad yn llawn sirioldeb a darbodaeth Mrs. Jones ag yntau.
"Fel Cristion, yr oedd yn amlwg mewn duwioldeb. Meddai raddau helaeth o sicrwydd iddo ei hun, a rhoddai ei fywyd brawf i eraill ei fod yn aros yn yr Iesu. Byddai moddion gras ac ordinhadau yr efengyl yn uchel yn ei feddwl, a Gair Duw yn gyngorwr ac yn hyfrydwch beunyddiol iddo. Yr oedd ei gariad yn helaeth at ei frodyr, a'i barch yn fawr i weinidogion y Gair, a'i awydd yn angerddol am lwyddiant crefydd. Cymerai sylw manwl a dyddordeb mawr yn hanes crefydd. Gwyliai ysgogiadau yr amseroedd, a gweddiai yn daer, 'Deled dy deyrnas.'
"Fel diacon, deallai natur ei swydd, a theimlai ei rhwymedigaethau, a meddai lawer o'i hysbryd, a bu yn fwy llafurus na llawer ynddi. Yr oedd yn llafurus i ddilyn y cyfarfodydd henaduriaethol ac yn aml yn cydio â'i holl egni yn y gwaith. Yr oedd yn gwir ofalu. Byddai yn fedrus i hwyluso y gwaith yn mlaen yn y cynadleddau, yn alluog mewn ymresymiad, ac yn ddoeth mewn achosion dyrus a blinion. Gofalai rhag dryllio teimladau wrth amddiffyn trefn a gwirionedd. Yr oedd anrhydedd crefydd yn amcan ganddo yn ei holl ysgogiadau. Yr oedd yn 'wr llawn o ffydd, ac o'r Ysbryd Glan.' ' Ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.'
Ein cysur yw, fod marw yn elw iddo, ac fod Brenin Seion yn abl í gymwyso eraill i lanw ei le. Ein dymuniad a'n gweddi yw, am i ddeuparth o'i ysbryd syrthio ar aml un sydd ar ei ol yma.