MRS. MARY ROBERTS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ganwyd Mrs. Roberts, gwrthrych y Cofiant byr hwn, fel y tybir, yn Nghareg-lefan, plwyf Llanfaelrhys, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1776.Ei rhieni, William Parry a Chatharine Isaac, oeddynt aelodau o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghapel Penycaerau, plwyf Aberdaron. Yr oedd ei thad, yn ol tystiolaeth pawb a'i hadwaenai ef, yn un o'r Israeliaid didwyll. Byddai bob amser yn ei weddiau yn cofio teulu Seion trwy'r byd i gyd; ac hefyd dymuniad arall neillduol yn ei weddi a fyddai, am faddeuant o'i holl bechodau er mwyn Iesu Grist yn unig.
Hefyd, pan y denai adref ar ol bod yn gweithio ei ddiwrnod gwaith, arferai gadw dyledswydd deuluaidd bob nos. Gweddiai yn uchel dros ei deulu (pan yn fynych y byddent hwy oll wedi myned i'w gwelyau) heb neb ond ei wraig ar ei thraed. Bu yn ffyddlawn iawn hyd angau, a diameu iddo fyned i dangnefedd. Bu farw mewn gwth o oedran. Ei wraig Catharine a fu fyw flynyddoedd ar ei ol, a glynodd hithau yn ei phroffes hyd y diwedd.
Bu gwrthrych y Cofiant hwn yn ei hieuenctid yn aelod dros amryw flynyddoedd yn yr un eglwys a'i rhieni, a bu hefyd yn aelod mewn eglwysi eraill gyda yr un Enwad.
Ymunodd yn y sefyllfa briodasol gyda Mr. William Roberts, yr hwn hefyd ydoedd yn aelod eglwysig yn Nghapel Penycaerau. Yn fuan wedi priodi aethant i fyw i ardal Penygraig, ac ymunodd Mary Roberts â'r eglwys yno, a bu yno yn aelod rheolaidd am lawer o flynyddoedd.
Y teulu, yn cynwys y tad a'r fam, chwech o feibion ac un ferch, a gychwynasant tua thir America ar y 19eg o Ebrill, 1827, a chyrhaeddasant Steuben cyn diwedd mis Mai yn yr un flwyddyn. Yr oedd un ferch wedi dyfod i'r wlad hon o'r blaen, yr hon sydd wedi marw er's tua phedair blynedd. Bu Mr. William Roberts farw yn ddisymwth trwy syrthio o fan uchel yn yr ysgubor, tua 14eg o flynyddau yn ol; ac un o'r meibion, sef William Roberts, Ieuaf, a fu farw o'r darfodedigaeth, 11 mlynedd yn ol.
Yr oedd Mrs. Roberts yn ddynes hawddgar a siriol, yn wraig serchog, ac fel mam yn dyner ac anwylaidd o'i phlant. Yn fuan wedi ei dyfodiad i'r wlad ymunodd gyda yr eglwys Gynulleidfaol gynulledig yn y Capel Uchaf, Steuben, a pharhaodd ei haelodaeth yn yr eglwys hono hyd angan. Yr oedd yn dra diwyd yn ei hymlyniad wrth foddion gras yn gyffredinol, fel y gellir dyweyd iddi ddyfod i'n plith hyd y gallodd ddyfod. Nid oedd byth yn anmharod i adrodd ei phrofiad yn y Gyfrinach neillduol, a phob amser byddai ganddi air melys a buddiol i'w ddyweyd. Bu yn glaf dros hir amser, yn methu dyfod o'r ty dros bedwar neu bum' mis. Yn ei chystudd hoffai yn fawr weled ei chyfeillion crefyddol yn ymweled â hi, ac yn ymddyddan gyda hi am bethau yr efengyl. "A'm ceir ynddo ef " oedd ei hiaith yn ei chystudd, a hyderym mai arno ef fel ei Chraig dragywyddol yr oedd ei thawel ymorphwysiad yn angau. Y Sabboth diweddaf y bu fyw adroddodd wrth un o'i meibion yn ddifrifol y penill hwn,
Adwy gyfyng iawn yw marw,
Eto rhaid myn'd trwyddi draw a.y.
Gorphenodd ei gyrfa ddaearol ddydd Llun, Rhagfyr 28ain, 1844, tuag 68 mlwydd oed, a chladdwyd hi yn ymyl ei gwr yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben, y dydd Mercher canlynol, pryd yr anerchwyd cynulleidfa dra luosog gan R. Everett (yn Saesonaeg) oddiwrth Col. 3: 4, a'r brawd Morris Roberls (yn Gymraeg) oddiwrth Jos. 3:1.
R. E.