MR. EVAN WILLIAMS. HOLLAND PATENT, NEW YORK.

Rhagfyr 9fed, 1873, yn mhlwyf Holland Patent, New York, yr anwyl frawd Evan Williams, yn 56 mlwydd a 3 mis oed.

Cafodd ei boeni am amser maith gan anhwyldeb yn y cylla; ond aeth yn boenus iawn yn ei ddyddiau olaf, ac o dan ei effeithiau bu farw.

Mab ydoedd i Griffith a Jennet Williams, o Ty'n-llan, Llangwnadl, Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon 32 mlynedd yn ol.

Ymunodd รข chrefydd gyda M. C. yn Utica, 31 mlynedd yn ol.

Ymbriodd a Mary Williams, merch i Robert ac Elizabeth Williams o Pen y-maes, Uwchmynydd, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1849, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd oni wahanodd angau hwy. Bu iddynt dri o blant, y rhai sydd yn fyw, sef un mab a dwy ferch, y rhai, gyda mam, sydd eto yn galaru ar ol priod a thad tyner a gofalus.

Yr oedd ein brawd wedi credu nad allai fyw hir; yr oedd yn hawdd darllen hyny yn ei weddiau taerion. Un o'r nosweithiau olaf cyn gadael y ddaear, pan yr aeth i weddi yn ei ystafell, wrtho ei hun, ar ran ei briod, ei blant, a'i frawd, gan eu cyflwyno oll wrth e henwau i ofal ei Dad nefol, yr oedd rhyw daerineb a difrifoldeb mwy hynod nag arferol yn cydfyned a'r weddi hono.

Mynych y clywsom ef ar ei liniau yn y cyfarfodydd gweddi yn diolch ac yn canmol mewn llais nefolaidd am drefn i faddeu i'r penaf o bechaduriaid, a chred fod ei ffydd wedi troi yn olwg iddo, a'i obaith yn fwynhad. Yr oedd yn meddu ar y dalent o ganu, a bu o lawer o wasanaeth yn y ffordd hono i achos crefydd yn yr eglwys fechan y perthynai iddi, sef Rehoboth, Marcy, a theimla yr eglwys golled fawr ar ei ol.

Cafodd gladdedigaeth parchus y Sadwrn canlynol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y parchn. T. T. Evans, Jas. Jarrett, a Mr. Bennett (B.); a phregethwyd pregeth angladdol gan y Parch. Mr. Jarrett, yn nghapel y M. C, yn Marcy Rhagfyr 21ain, oddiwrth i Cor. 15 : 57.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1874.