MR. JOHN EVANS, HENDERSON, JEFFERSON.

Mai yr 28ain,yn Henderson, swydd Jefferson, yn 70 mlwydd oed, John Evans, gynt o Aberdaron, Gogledd Cymru.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1775. Ymfudodd i'r America, yn nghyd a'i fab Evan a'i deulu, yn nechreu hâf 1842.

Tiriasant yn Nghaerefrog-Newydd Mai y 23ain, a daethant i Henderson, swydd Jefferson, Meh. y 13eg, lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol, lle hefyd y mae ei fab a'i deulu galarus eto yn trigiaunu.

Mae yn ymddangos fod y trangcedig wedi ymuno â chrefydd pan oddeutu 27 oed, obìegyd bu yn proffesu crefydd oddeutu 43 o flynyddoedd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd.

A galluogwyd ef trwy ras i harddu ffyrdd crefydd tra fu by w. Ni bu ei gystudd ond byr, eto y fath ag a'i hanalluogodd i ymddyddan ond ychydig iawn ; felly niddywedai nemawr wedi ei gymeryd gan ei glefyd, er hyny rhoddodd arwyddion fod ei sail ar y Graig.

Am beth amser cyn ei ymadawiad, pan yr ydoedd eto yn ei gynnefinol iechyd, mynych ddywedai y byddai iddo ef ein gadael yn fuan na byddai byw nemawr yn hwy, mewn modd mwy difrifol na chyffredin.

Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn ei gladdedigaeth, gan Robert Robotham, pregethwr gyda'r Trefnyddion Esgobaethol, a hebryngwyd ei gorff gan luaws o'i gymydogion galarus i gladdfa Sacketls Harbor, lle y gorphwysa hyd foreu caniad yr udgorn.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1845