MR. DAVID E. EVANS, BETHESDA, GER OSHKOSH, WISCONSIN.

Cofiant Mr. Dayid E. Evans, Bethesda, ger Oshkosh, WlSCONSIN. Wrth fod Cofiantau yn bethau mor gyffredin, y mae yn anhawdd gwneyd cyfiawnder â pherson a fyddo yn wir deilwng o gofiant. Am wrthddrych y cofiant hwn, digon yw dweyd wrth bobl Wisconsin, mai David E. Evans, "y canwr," oedd; ond er mwyn eraill, rhaid; i ni fanylu ychydig.

Yr ydoedd yn enedigol o ardal Trefriw, Llanrhychwyn, Sir Gaernarfon, Cymru. Enwau ei dad a'i fam oedd Evan ac Ann Evans. Yn Mawrth 28,1844, priododd gyda Margaret, merch William Morris, Pentre Ucha', Llangybi, yr hon sydd yn chwaer i'r diweddar Nicander. Ymfudasant i America yn Ebrill, 1847, a daethant i ardal Bethesda, ger Oshkosh, Wisconsin, y lle y bu fyw hyd ei farwolaeth. Bu farw Hydref 18, 1874, (Sabboth y bore,) yn ddeunaw a deugain mlwydd oed, a chladdwyd ef y dydd Mawrth canlynol yn mynwent Bethesda.

Am y brawd hwn, da genym allu dweyd yn y dechreu, er nad ydym yn honi nad oedd gan ein cyfaill ei goleuadau, fod ei rinweddau yn gorbwyso ei golliadau o ddigon. Nid yn aml y ceir dyn felly.

Fel dyn, yr oedd ein cyfaill yn un o gyfansoddiad corfforol cryf iawn; y mae yn debygol na bu yn y Sefydliad yr un cryfach nag ef; ond nid yw meddu corff cryf yn ddim at orchfygu angeu pan y daw. Yr ydoedd hefyd yn un o alluoedd meddwl lled gryf. Yr oedd yr hyn a eilw y beirdd yn grebwyll, yn lled gryf ynddo, sef y gallu i greu drychfeddyliau. Nid oedd yn un llithrig iawn o ran dawn ymadrodd, ond mewn ysgrifen yr oedd yn ddoniol iawn; buom yn cael difyrwch lawer gwaith wrth wrando arno yn darllen ei feirniadaeth ar gyfansoddiadau mewn cyfarfodydd llenyddol. Ond, er fod llawer o bethau enwog yn perthyn iddo fel dyn, eto fel cerddor yr oedd ei brif hynodrwydd; fel Bass yr oedd bron yn ddiguro. Ac yr oedd hefyd yn gyfansoddwr da, fel y mae llawer o'i dônau sydd ar gael yn profi; ac efe a fyddai y beirniad yn fynych ar dônau yn y Gymdeithas Gerddorol berthynol i Wisconsin. Ac nid celfyddyd fyddai y cwbl ganddo gyda'i gan, ond meddai deimlad hefyd. Os caffai dipyn o lewyrch i'w feddwl yn yr oedfa ar y Sabboth, ceid deall hyny yn y canu ar ddiwedd yr oedfa; ymollyngai y pryd hyny á'i holl enaid i'r canu, a dyblai y dôn trosodd a throsodd, nes y byddem bron yn tybied fod llawr y capei yn chwareu tan ein traed. A pheth oedd yn rhagorol ynddo gyda chanu, ag y byddai yn dda í gantorion ddilyn ei esiampl, oedd, ei waith yn sefyll ei dir gyda'i waith trwy bob tywydd. Hen gyhuddìad a roddir weithiau yn erbyn cantorion yw, fod tuedd moni a thramgwyddo ynddynt, os cyfarfyddant ag ychydig groesau. Ond ni wnai ein brawd felly. Cyfarfyddodd yntau â thestynau digaloni, eto safai ei dir gyda'i waith; hen ych yn sefyll ei dir yn ei gwys dan bwys a gwres y dydd ydoedd; a bu ffyddlon gyda'i waith heb nemawr ddim cydnabyddiaeth am ei lafur. Y mae y Sefydliad hwn tan ddyled iddo am yr agwedd sydd wedi bod, ac yn bod, ar ganu, i fesur mawr; ond yr oedd yn haws gan rai geisio taflu sarhad arno na pharchu ei dalent a'i lafur, er eu bod dan ddyled iddo. Carem gyfeirio gair at y cantorion ieuainc fu yn ddysgyblion iddo. Os dymunech ddangos gofal am achos Duw, a pharch i goffadwriaeth eich hen athraw, dilynwch ei esiampl, trwy sefyll eich tir gyda'r rhan yma o'r gwaith yu ffyddlon hyd eich bedd.

Fel Cristion, efe oedd blaenffrwyth yr efengyl yn y Sefydliad. Gellir dweyd am dano fel y dywedodd Paul am Epenetus, "Yr hwn yw blaenffrwyth Achia yn Nghrist." Daeth i'r eglwys hon yn y cynhauaf yd, yn y flwyddyn 1849. Daeih i'r eglwys mewn pwyll, fel dyn wedi eîstedd i lawr i fwrw y draul, gan ystyried ei bod ya ddyledswydd arno arddel Mab Duw, ac mai trwy roddi ufudddod i lais Crist, ac i'r cymelliadau oedd ar ei feddwl, y gallasai ddysgwyl bendith ac ymgeledd i'w enaid; a thystiai ei briod elai pregeth i'r ysgrifenydd oddiar Ezra 3 : 12, 13, fu yn foddion i'w enill. Tystiai yn ei ddyddiau olaf wrthym, ei fod yn credu "mai Duw a'i harweinodd yma i gael gafael argrefydd, ac i wneyd ychydig dros ei achos; y buasai yn dda ganddo pe buasai wedi gwneyd mwy, ond fbd yn dda iawn ganddo ei fod wedi cael y fraint ì wneyd ychydig dros ei Feistr mawr. Nid crefyddwr diog oedd ein brawd, ond bu yn llafurus am wybodaeth o'r gair, fel yr oedd yn un o'r rhai mwyaf egwyddorol yn yr eglwys. Bu yn athraw da yn yr Ysgol Sabbothol am flynyddoedd lawer. Taflodd ei dalent i'r bwrdd cyfnewid, trwy ei defnyddio yn mhob cylch a allai. Cerddodd lawer yn y blynyddoedd cyntaf yn Wisconsin, i gymanfaodd crefyddol; ni chollodd ond un o gyfarfodydd y Gymdeithas Gerddorol o'i sefydliad cyntaf; aeth unwaith ar ei draed tiwy lwchfeydd eira i Cambria i un o'r cyfarfodydd hyny, yr hyn a gostiodd ymdrech mawr iddo, pan gofiwn fod ganddo ddeugain milltir i'w cerdded. Fel gweddiwr nid oedd yn un hyawdl iawn, ond byddai ei weddi yn llawn synwyr, diwast, a phan y caffai dipyn o afael, byddai yno dinc ynddi; bydd ei hen air ar ei liniau ar gof rhai yn hir, "Sancteiddia ni i glod dy ras," meddai agos bob amser cyn yr Amen.

Yr ydoedd yn un o'r gwrandawr goreu yn y capel, os nad y goreu oll. Bu ei ochenaid a'i Amen o'r lle yr eisteddai, yn help i nì ìawer oedfa dywyll, pan y bydda eraill yn cysgu. Bu ar ymweliad â Chymru yr haf diweddaf, ac y mae yn destyn syndod, wrth edrych ei lyfr, gymaint ac mor fanwl yr oedd wedi cofnodi y Pregethau a wrandawodd; meddai gofnodion helaeth o bob pregeth a glywodd tra bu yno.

O ran ei brofiad, i fyny ac i lawr oedd hi arno yntau ond byddai yn gyffredin a'i feddwl yn mhethau efengyl; ond talodd ei ffordd yn dda iddo - ca'dd "oleuni yn yr hwyr." Cafodd ddigon o oleuni iddo allu gweled nad oedd achos iddo ofni am yr hyn oedd o'r ochr draw i'r glyn. Dywedai wrthym ychydig cyn marw, "Byddaf yn meddwl cryn dipyn am farw; y mae arnaf fwy o ofn yr ymddatod na'r hyn sydd tu draw i hyny; y mae yma hen babell go gre', welwch chwi, ac mae arnaf ofn mai cryn struggle fydd ei chae hi i lawr; ond am yr hyn sydd tu draw i angeu nid oes arnaf lawer o ofn hyny."

Tybed y rhaid i ni gredu ei fod wedi marw? Ai nid wedi cymeryd taith i ryw wyl gerddorol y mae, neu ail daith i Gymru? Yr ydym yn annyben i gredu ei fod wedi marw. Byddwn yn tybied ein bod yn clywed ei lais trwy y canu, fel arferol, mor gryf a soniarus; bron na chlywem ei Amen o gwr draw y capei. Pa fodd y gallwn goelio ei fod wedi marw? Na, ni choeliwn ddim a her i angeu ei hunan; nid wedi marw, ond wedi huno y mae. Y mae adeg iddo ddeffroi o'i wely yn dyfod, a phan ddel hyny, bydd yn edrych yn ieuengach a mwy heinyf nag y bu erioed yma, ac o ran ei ysbryd y mae wedi ymuno â'r cor nefol, mewn cymanfa ragorach na Chymanfa Wisconsin; ac os bu yn dyblu y gân yma, y mae yn pyncio ei hoff anthem "Teilwng yw'r Oen," yn fwy croew a pheraidd nag y gwnaeth erioed ar y ddaear. Gallwn dystio fod claddedigaeth y brawd hwn yn un o'r rhai mwyaf galarus a welsom er dechreuad Y Sefydliad hwn.

"Da wladwr duwiol ydoedd,
A gŵr i Dduw o'r gwraidd oedd."

MR. DAVID E. EVANS, OSHKOSH, WINNEBEGO COUNTY, WISCONSIN.

DAVID E. EVANS, the "Singer." He settled on Section 19, town of Nekini, then he sold his place to Richard Edwards, Ohio, and he settled the second time on Section 35, town of Utica. His home is called "Pen yr Allt" (Top of the slope or grade). He was an intelligent singer, having composed a number of good tunes. He also had an unusually strong bass voice, comprehensive and sweet.

He died October, 1874. His widow, Mrs. Margaret Evans, is living and is a very responsible woman because of her talent, her temperament and her piety. She is the sister to the Rev. Morris Williams, M. A. (Nicander), author of "The Divine Oracles" and other good books. They were married by him in the cathedral church of Bangor, Wales, March, 1843.

Their son, William D. Evans, married Jane, daughter of the deacon and the good veterinary, Hugh Parry, and id the chorister in Bethesda.

John D. Evans, who married Elizabeth Jones of Proscairon, is a merchant in Minneapolis.

Ebenezer D. Evans, who married Catherine, daughter of David S. Evans and who was clerk in the First national Bank of Oshkosh for eighteen years. He lost his health and moved to Tacoma, Washington, and again to Minneapolis, and finally to Randolph, Wisconsin, where he started the successful State Bank. He died April 5th, 1896, leaving a wife and five daughters to mourn his loss. He was a great theologian, an excellent teacher, a good song leader, an able poet and a faithful member of the Calvanistic Methodists all his life.

Wynn Evans, who went to the far West, who married an American and who now has a lumber business in British Columbia.

Margaret, the only daughter, who is the wife of the Rev. David E. Evans B. A., only son of David S. Evans and living in Minneapolis, where her husband is a minister with the Presbyterian.

Oshkosh, Wisconsin, Welsh settlement centennial, 1847-1947.