MR. EDWARD R. FRANCIS, DAWN, LIVINGSTON COUNTY, MISSOURI.

Ganwyd ef ar fferm o'r enw Draenogan Mawr, Llanfihangel Traethau, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Awst 17eg, 1826.

Bedyddiwyd ef ar broffes o'i ffydd, pan oddeutu 23 oed, a derbyniwyd ef i gyflawn aelodaeth o Eglwys Talsarnau yr un dydd. Mab ydoedd i Robert a Sarah Francis, o'r lle uchod.

Symudodd gyda yr ysgrifenydd i America, yn 1851. Bu hefyd am beth amser gyda yr Ysgrifenydd a'i chwaer, Mary Evans, yn gwneuthur ei gartref yn Berlin, Wisconsin, a bu yn ffyddlawn yn ngwinllan Crist tra yr arosodd yn Berlin. Oddeutu y flwyddyn 1860 symudodd i Pittsburgh, Pennsylvania, a bu yn aelod o eglwys y Parch. William Owen.

Ymunodd mewn priodas a merch barchus o Ebensburgh, o'r enw Mary Ann Long. Bu am beth amser yn byw yn Ebensburgh, ac hefyd yn Johnstown, Pennsylvania. Symudodd oddiyno i Dawn, Missouri, ac ymunodd ef a'i briod a'r eglwys Fedyddiedig yn y lle. Ond nid hir bu y brawd anwyl Edward yn mwynhau iechyd da yn y lle. Cafodd ef a'i deulu y cryd, a dilynwyd ef â rhyw glefyd arall, a throdd yn ddarfodedigaeth, a bu yn nychu ynddo am dros ddwy flynedd, yn analluog i ddilyn ei alwedigaeth; ond er fod y dyn oddi-allan yn gwanychu yn raddol, yr oedd y dyn oddi mewn megys yn cael ei ad-newyddu o ddydd i ddydd, yn ôl pob ymddangosiad yn ei lythyrau ataf dan yr amgylchiad yn ystod ei afiechyd; a'i fod wedi ymgymeryd ag anogaeth Paul, sef rhoddi ei serch ar y pethau sydd uchod, ac nid ar y pethau sydd ar y ddaear, a'r, rheswm o hyny oedd ei fod yn farw, a bod y bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.

Ond er cymaint o garedigrwydd a ddangosodd ei briod a'i blant, yn nghyd a'r frawdoliaeth a'r cymydogion caredig, trechodd angau y cyfan oll.

Chwefror 28ain, 1874, ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoddodd. Mawrth 2ail, hebryngwyd ei weddillion marwol i dŷ eu hir gartref. Gweinyddwyd yn yr angladd gan weinidog y lle a'r Parch. Richard Davies, Springwater, Wisconsin. Gadwodd yr ymadawedig wraig a phump o blant i alaru ar ei ôl. Bydded Arglwydd Dduw Israel yn nodded iddi hi a'i phlant yn y byd trallodedig hwn, yw dymuniad,
Springwater, Wisconsin. R. D. Evans.

Y Wawr ~ Awst 1876.