MISS. MARY HUGHES, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 24ain, 1875, yn Marcy, New York, Mary Hughes, merch y diweddar David ac Ann Hughes, yn 46 mlwydd, 3 mis a 23 diwrnod oed.

Ymfudodd o Lleyn, sir Gaernarfon, gyda'i rhieni yn y flwyddyn 1828. Ymunodd a byddin Iesu Grist er pan yn ieuanc, a pharhaodd yn ffyddlon hyd angau. Ni chafodd ond cystudd byr, oddeutu pymthefnos; ond credwn ei fod yn odidog ragorol, yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant iddi hi.

Teimlir colled yn Seion ar ôl un ag oedd mor ffyddlon hyd ei gallu. Gadawodd frawd anwyl a mam oedranus, a lluaws o gyfeillion i alaru ar ei hol. Bu yn afiach am flynyddoedd, ond credwn ei bod wedi myned i wlad lle nad oes afiechyd, pechod na phoen ynddi.

Rhoddwyd ei gweddillion marwol i orphwys gyda'r hwn a hoffai mewn bywyd, sef ei hanwyl dad, yn Bethania, Marcy, o'r hon eglwys y bu yn aelod.

Ymgynullodd dorf luosog i dalu y gymwynas olaf iddi ar y 26ain, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. John H. Griffiths, Marcy, a R. Gwesyn Jones, D. D., Utica.

Y Drych ~ 4ydd Chwefror 1875.