MR. OWEN HUGHES, ROCKMART, GEORGIA.
Damwain erchyll.
Fel yr oedd Owen R. Hughes a Griffith J. Davies yn dilyn eu galwedigaeth yn Hen Chwarel Col. Dever, ychydig fynydau cyn haner dydd Sadwrn, y 19eg o Ragfyr, hyrddiwyd darn o graig yn pwyso 181 o bwysi yn ddisymwth o chwarel G. W. Jones and Co., pellder o 160 o latheni, gan ladd Owen Hughes yn y fan.Ni ddywedodd air, ond bu yn anadlu am o 15 i 20 mynyd. Ymddengys i'r graig daraw asgwrn uchel ei glun dde yn erbyn y graig, nes tori ei ddwy glun bron yn llwyr ymaith, ac yr oedd golwg druenus i'r eithaf arno.
Dyn ieuanc 21ain oed oedd, ac un a berchid gan bawb, fel un yn meddu ar lawer o rinweddau. Y dydd canlynol hebryngwyd ef i dy ei hir gartref gan gynulleidfa luosog, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. 0. A. Redford. Daeth Hughes yma yn Ebrill diweddaf o Gaerllwyngrydd, yn ardal Bethesda.