MR. WILLIAM HUGHES, WAUKESHA, WISCONSIN.

Damwain Angeuol.

Dygwyddodd damwain alarus yn sefydliad Cymreig Waukesha, y 13eg o Ragfyr.

Fel yr oedd William Hughes yn gyru ei gerbyd adref o Waukesha, ac fel yr oedd yn agoshau at ei gartref, trwy ryw fodd neu gilydd dychrynwyd y ceffylau, a rhedasant oddiar Mr. Hughes. Lladdwyd un ceffyl trwy daraw yn erbyn coeden drylliwyd y cerbyd yn yfflon, a thaflwyd Mr. Hughes ar ei ben ar y ddaear.

Derbyniodd y fath ergyd fel y bu farw oddiwrth y niweidiau y dydd Llun canlynol. Claddwyd ef y Mercher canlynol yn mynwent Salem, lle y gorwedd dau o'i blant.

Brodor oedd yr ymadawedig o Sir Gaernarfon, ger Bethesda. Dinas oedd enw ei gartref. Symudodd i'r wlad hon tua 28 o flynyddoedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn Delafield. Trwy lafur a diwydrwydd casglodd eiddo da, fel ag yr oedd mewn amgylchiadau cysurus iawn. Yr oedd yn un o hen sefydlwyr yr ardal Gymreig hon. Perchid ef gan bawb fel cymydog dyddan a charedig. Ychydig o'n hen gymydogion allasent fostio mwy o gyfeillion na'n hen ffrynd William Hughes.

Gadawodd wraig a chwech o blant i alaru am dano. Heddwch i'w lwch.

Y Drych ~ 14eg Ionawr 1875.