MR. JOHN JONES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

John Jones, Bodychenan. 1807-1874.

Mab John a Mary Griffiths, Bodychenan, Penygraig, Lleyn.

Ymfudodd i America yn 1828. Bu am gyfnod yn tramwyo ar Afon y Gogledd, o Efrog Newydd i Albany. Mewn llythyr at John Williams, Penygraig, Bodferin mae John W Roberts, Felin, Llangwnadl yn son am John Jones yn hwylio ar Afon y Gogledd.

Yn 1837 priododd gyda Rachel Thomas, merch David a Hannah Thomas o Albany. Ar ôl priodi bu yn cadw siop yn ardal Bethel. Remsen.

John Jones 1807 - 23/8/1874.
Rachel Jones 30/11/1817 - 28/12/1902.

Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent French Road yn Remsen, ac ar garreg fedd John Jones mae'r ysgrif "A native of Bodychenan."

Glyn Roberts ~ Medi 2021.


MR. JOHN JONES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Bu farw Awst 23ain, 1874, yn 67 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent French Road, Steuben, wrth ochr ei ddwy ferch.

Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. David Williams, Penygraig. Yna awd â'r corff yn groes i'r ffordd i gapel Bethel, pryd y pregethodd David Williams yn Saesneg a R. Evans (Trogwy) yn Gyrnraeg.

Yr oedd John Jones yn fab i John a Mary Griffiths, Penygraig, Llyn, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd John Griffith yn hen flaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Adwaenid ef gan yr enw John Griffith, Bodychenan, ac wrth yr enw hwn y byddai John ei fab yn cael ei alw yn gyffredin.

Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1838. Bu yn tramwyo o Albany i New York, ar afon y gogledd am amryw o flynyddoedd, ac yn y flwyddyn 1837 ymunodd mewn priodas â Miss Rachel Thomas, merch i David a Hannah Thomas, Albany. Ac yn y flwyddyn 1839 symudasant ì Steuben i ardal French Road. Bu iddynt 8 o blant. Y mae 6 yn fyw yn bresenol.

Yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Penygraig, Remsen, er's tuag 16eg o flynyddoedd. Aeth at grefydd yn amser y diwygiad pan oedd y Parch. Humphrey Jones y ffordd yma. Yr oedd rhywbeth neillduol iawn ar ei feddwl pan arosodd ar ôl yn y society bore Sabboth yn French Road. Fe dreiodd fyned allan i ganlyn y dorf, ond ni fedrodd symud oddiar y fainc ac ni welai un golwg am beth amser. Yr oedd wedi bod mewn trwbl meddwl er's llawer blwyddyn cyn hyny, ond methodd dori trwodd.

Cychwynodd i'r gyfeillach un diwrnod, ac ar y ffordd dywedodd rhywbeth wrtho, paid a myned yn awr, a pherswadiodd ef i beidio; ond yr oedd yn dywydd garw arno, ac nis gwyddai braidd pa beth yr oedd yn ei wneuthur. Dywedodd ei drwbl wrth ryw gyfaill, ac yr oedd y cyfaill hwnw yn French Road y Sabboth crybwylliedig. Wel, John, ebai ef, pa faint o amser sydd er pan oeddit yn y trwbl meddwl mawr hwnw? Dywedodd yntau, wyth mlynedd ar hugain i heddyw. Diolch i Dduw am ei gadw yn fyw yr holl amser hyny.

Ychydig cyn marw galwodd ei deulu ato a dywedodd wrthynt, Gweddiwch am wir grefydd fy mhlant anwyl, i ni gael cyd gyfarfod yn y nefoedd. Yr oedd yn bwyllog yn cyfarwyddo ei deulu gyda golwg ar eu hamgylchiadau, a'r man a'r modd yr oeddynt i'w gladdu. Prydyddodd lawer o dro i dro, ond ni argraffwyd yr un o honynt. Heddwch i'w lwch, a Duw fendithio ei wraig a'r plant oll, yw gwir ddymuniad eu cyfaill,
G. W. E.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1875.