MR. JOHN MATHER JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Dydd Iau, y 24ain o fis Rhagfyr 1874, ymgynullodd tyrfa luosog i'r Eglwys Esgobyddol ar Heol Broad, yn y ddinas hon, i dalu y gymwynas olaf i weddillion J. Mather Jones. Daeth aelodau y Gymdeithas Elusengar yn nghyd i swyddfa y DRYCH, yn unol a phenderfyniad mewn cyfarfod blaenorol, a cherddasant yn osgordd i lawr at y tŷ. Cariwyd y corff o'r ty i'r eglwys, yn cael ei ddilyn gan y Gymdeithas Elusengar, Is-lywydd yr hon oedd yr ymadawedig.Cyflawnwyd y gwasahaeth angladdol mewn modd difrifol, yn ôl dull Eglwys Lloegr, gan Dr. Coxe. Wedi llanw y cerbydau gan y galarwyr a'r cyfeillion, cychwynodd yr orymdaith am y gladdfa.
Dilynwyd y cerbydau i ben uchaf heol Genesee gan y Gymdeithas Elusengar, a nifer o gyfeillion, yna aed yn mlaen i'r gladdfa. Cymerwyd yr arch i'r adeilad newydd, lle yr aed drwy y rhan olaf o'r gwasanaeth angladdol ac wedi i'r gwyddfodolion wasgaru daeth y claddwyr yn mlaen, y rhai a gymerasant yr arch i'r vault, lle yr erys hyd ddiwrnod y claddu yn y gwanwyn.
Yr oedd yr arch yn un hynod o hardd, ac ar y cauad yr oedd torch brydferth o flodau, llun angor a llun calon, oll wedi eu gwneyd yn y modd tlysaf a mwyaf celfyddgar.
Nid oes genym yn awr ond dweyd, "Heddwch i'w lwch."
Y Drych ~ 1af Ionawr 1875.
MR. JOHN MATHER JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gofid i'm calon oedd darllen fod y gonest a'r caredig, y deallus a'r tyner J. MATHER JONES wedi noswylio mor gynar a sydyn.Ychydig ddyddiau cyn marw ysgrifenai ataf rai o'i ddymuniadau a'i benderfyniadau o berthynas i'r DRYCH. Sef mai pwysig yn ei olwg oedd ei gadw yn Newyddiadur hollol annibynol ac agored i bob barn a llafar synwyrol a boneddigaidd, pa mor groes bynag i'w syniadau personol ef y gallai rhai ysgrifau fod. Dywedai fod yn ddrwg ganddo orfod meddwl y buasai y DRYCH yn fwy cymeradwy gan rai pe buasai yn gul, unochrog, ac heb gyhoeddi dim croes i'w golygiadau hwy. Tybiai yn onest y dylai Newyddiadur i bawb, gynwys amrywiaeth, a bod yn enau cyhoeddus syniadau pawb, can belled ag y byddent yn onest o blaid purdeb a daioni.
Yr oedd gan Mr. Jones barch calon i grefydd bur yr Arglwydd Iesu Grist. A dymunai yn angerddol i'w Newyddiadur fod bob amser yn sicr a difloesgni dros chwareu teg i bawb, ac yn addysgwr pob brawdgarwch a dynol-welliantau. Er na fynai gyfyngu arnaf mewn unrhyw fodd, dymunai am i mi fod mor dyner a thirion byth y gallwn wrth ysgrifenu, os bwriadwn ebu unrhyw beth yn y dyfodol yn groes i rai o syniadau duwinyddol mwyaf poblogaidd ein cenedl. Ac y mae y dymuniad hwnw o eiddo fy anwyl frawd ymadawedig yn gysegredig gan fy nghalon, ac i gael ei gyflawni genyf yn fanwl.
Buan bellach y rhaid i ninau orphen ein gyrfa ddaiarol. O am adael olion ein traed yn amlwg o blaid yr hyn sydd resymol, gonest, a thueddol i wir leshau pawb yn mhob ystyr.
Y Drych ~ 21ain Ionawr 1875.
MR. JOHN MATHER JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
I John Mather Jones of Utica, New York, do make and declare this to be my last Will and Testament as follows.I give, devise and bequeath all my property real and personal to my wife Eliza H. Jones and to her heirs and assigns forever, and I hereby appoint her the Executrix of this my last Will and Testament.
In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this 27th day of June 1874.
John Mather Jones.
The foregoing Will was signed by the Testator the 27th day of June 1874 in our presence and he thereupon declared the same to be his last Will and Testament and requested us to sign the same as subscribing witnesses and we thereupon in the presence of the Testator and of each other affixed our names hereto as subscribing witnesses.
John G. Crocker Utica New York.
Charles H. Wrichell Utica New York.