MR. JOHN DAVIES, WESTERN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 3ydd, 1875, yn 25 mlwydd oed, Mr. John Davies, Western, swydd Oneida, New York, gan adael gwraig a phedwar o blant i alaru ar ei ôl.Yr oedd yn aelod parchus gyda'r A. ers amryw flynyddoedd, ac yn ddyn a berchid gan bob teulu yn yr ardal.
Genedigol oedd o sir Feirionydd, a daeth yma tua deng mlynedd yn ôl. Claddwyd ef yn barchus yn Westernville pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John H. Jones, Rome.