MR. GRIFFITH EVANS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Griffith Evans 1791 - 1875 a Mary Evans 1791 - 1877 o Cabli ym mhlwyf Bryncroes.Griffith wedi priodi Mary Evans o Langwnadl yn Eglwys Llangwnadl ar 17/5/1811.
Mae yn debyg mai crydd oedd Griffith wrth ei alwedigaeth.
Ymfudo i America yn 1827 gyda tua hanner cant o drigolion Llangwnadl ar fwrdd y brig Gomer. Ar y rhestr teithwyr gellir gweld:-
Griffith Evans. 36.
Mary Evans. 36.
Jane Evans. 13.
Eleanor Evans. 10. bedyddio 18/6/1815.
Mary Evans. 6. bedyddio 16/12/1819.
John Evans. 1. bedyddio 24/2/1826. yng nghapel Penygraig.
Ganwyd mab arall iddynt, Evan yn America.
Yn America 'roedd Evan yn defnyddio y cyfenw Jones ac fe ellir gweld yng nghyfrifiadau yr Unol Daleithiau fod Griffith E Jones yn gweithio fel crydd ym mhlwyf Steuben.
Bu Griffith E Jones farw ar 3/4/1875 yn 84 oed a Mary Jones yn 1877 yn 86 oed.
Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Nant yn Steuben.