MR. WILLIAM J. EVANS, SALT LAKE CITY, UTAH.

Ionawr 5ed, 1875, tra ar ei daith o'r Chicago Mines i Salt Lake City, Utah.

William J. Evans (neu Wil yr Albion); yr hwn oedd oddeutu 38 mlwydd oed. Ei glefyd oedd enyniad yr ysgyfaint, a bu farw yn y cerbyd yn agos i'r Half Way House.

Claddwyd ef dranoeth yn ngladdfa y Mormoniaid yn Ninas y Llyn Halen, a hyny yn drefnus. Daeth i California yn lled ieuanc, a bu dros amser yn Nevada, a daeth i Utah tua thair blynedd yn ôl.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o gylchoedd Bethesda, neu Gwm y glo, Arfon, ac mae iddo frawd yn y Talaethau Dwyreiniol, yn rhyw le.

Dymunir ar bapyrau Cymru gyhoeddi yr uchod, a gall ei berthynasau gael rhagor o'i hanes drwy anfon llythyr ataf, fel y canlyn: RICHARD P. JONES. 16th Ward, Salt Lake City, Utah, America.

Y Drych ~ 21ain Ionawr 1875.