MRS. MARY GRIFFITHS, RUSSEL GULCH, CENTRAL CITY, COLORADO.

Yn Russel Gulch, ger Central City, Colorado, Tachwedd 20fed, 1875 o'r mountain fever, yn 26ain mlwydd oed, Mary, anwyl briod Griffith D. Griffiths.

Merch oedd yr ymadawedig i Ellis, Roberts, gynt o Blasofa, Llanllechid. Arvon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon tua chwe' mlynedd yn ôl, ac i Colorado o Georgia tua blywyddyn yn ôl. Gadawodd briod hiraethus, a dau o blant bychain - un yn dair blwydd, a'r llall yn chwe mis oed - i deimlo eu colled ar ei hol.

Claddwyd hi yn barchus yn mynwent y Free Masons yn Central, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. J. Hall, gweinidog yr M. E. yn Central.

Hedd, er ingoedd oer angu - a loes
Oleuodd ei gruddiau;
Y wobr o rodio'i llwybrau,
Wiriodd hon wrth ymryddhau.
AERONWY.

Y Drych ~ 3yd Chwefror 1876.