MRS. CATHERINE JONES, ATTICA, WYOMING COUNTY, NEW YORK.
Rhagfyr 1af, 1875, yn 71 mlwydd, 7 mis a 4 diwrnod oed, Mrs. Catherine Jones, anwyl briod Mr. John D. Jones, Attica, New York.Daeth hi gyda'i rhieni ac eraill o'r teulu drosodd i'r wlad hon o le yn swydd Gaernarfon a elwir Llawenan yn 1818, pan nad oedd yr ymadawedig ond 14 mlwydd oed, ac ymsefydlasant yn ardal French Road, Steuben.
Bu Catherine gartref gyda ei rhieni am rai blynyddau. Aeth i fyw i New York, a thra y bu hi yno cyfarfu â rhai troion chwerwon. Bu yn bur wael ei hiechyd ei hun amrywiol weithiau, a bu farw chwaer anwyl iddi hefyd; eto y mae lle i gredu fod y pethau hyny yn mysg eraill wedi cydweithio er daioni iddi, canys ar yr adeg hon y cafodd ar ei meddwl uno a chanlynwyr Arglwydd Iesu, a chafodd ei derbyn yn aelod eglwysig gan y Parch. James Davies, gynt o Aberhafhesp, a dywed y rhai oedd yn gydnabyddus â hi yn ei hieuenctyd ei bod yn selog a bywiog iawn.
Medi 5ed, 1833, ymunodd mewn priodas â John D. Jones, a buont fyw am bedair blynedd ar bymtheg yn ardal Steuben. Yna, symndasant i fyw i Attica; ond er bod yn Attica bregethu Cymraeg ar rai amserau, eto rhaid oedd iddi ddod i un o eglwysydd Cynulleidfaol Cattaraugus cyn gallasai hi gael cyfranogi o'r elfenau a ddefnyddir i gofio am gariad a dioddefiadau yr Arglwydd lesu.
Tair blynedd ar ddeg yn ôl aeth yn lled afiach, a dywedai y meddygon mae dropsy oedd ei hafiechyd, yn nghyd a dolur y galon, a gwnawd pob ymdrech cyrhaeddadwy i'w meddyginiaethu; ond methwyd a'i hadferyd, parhaodd y llesgedd i'w hanalluogi i fod o gysur iddi ei hun na neb arall - parhaodd yn llesg a gwan.
Gorphenaf diweddaf daeth hi a'i phriod i fyw at eu hunig ferch a'i gŵr yn Farmersville, gan obeithio y buasai newid lle i fyw yn effeithio ar ei chyfansoddiad er gwellhad, ac heblaw hyn cael cyfleusdra i addoli; ond nid felly y bu. Er fod tŷ Mr. Howel R. Jones yn agos iawn i addoldy Siloam, nis gallodd hi fawr o weithiau, os gymaint ac unwaith, ddod dros drothwy y ty yr oedd yn trigianu. Byddai ar amserau yn cael adegau o gystudd caled i'w ryfeddu, a byddai ar adegau eraill yn teimlo i raddau yn well.
Y Sabboth diweddaf y bu byw yr oedd y teulu oll wedi myned i'r addoldy ond ei mab-yn-nghyfraith. Cyfnewidiodd ar unwaith, a chollodd ei lleferydd yn hollol, ac ni allodd lefaru gair wedi hyny wrth neb; ac ar y dydd crybwylledig ehedodd yr ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef, gan adael un mab, un ferch, ac amryw wyrion, yn nghyd a phriod galarus ac oedranus, yn nghanol dyffryn galar a wylofain.
Bu iddynt unwaith bump o blant, ond yr oedd tri wedi gadael eu holl berthynasau yn y byd presenol a rhagflaenu eu hanwyl fam i'r byd mawr ysbrydol a thragwyddol. Dydd ei chladdedigaeth, cyn symud y corff o'r ty, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. James Griffiths, ac yn addoldy Siloam efe a lefarodd oddiwrth y geiriau "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau."
Yna hebryngwyd y corff i orwedd yn ei wely pridd hyd foreu caniad yr udgorn mawr y dydd olaf.