MR. EVAN JONES, CENTREVILLE, GALLIA COUNTY, OHIO.

Am Mr. Evan Jones, Henadur yn Eglwys Centremlle, swydd Gallia, Ohio, yr hwn a fu farw Hydref 28ain, 1845, yn 60 mlwydd oed. Ganwyd ef Ionawr 30ain, 1785, yn mhlwyf Celynin, ger llaw Tywyn, Meirionydd. Mab ydoedd i John a Margaret Alban. Gelwid ef yn Jones ar ôl enw cyntaf ei dad, fel yr arferir eto mewn rhai parthau o Gymru. Treuliai foreuddydd ei oes yn ôl tuedd ei natur lygredig; ond pan oddeutu 18 oed, ymaflai rhad ras ynddo o ddifrif. Pan yn un o gymanfaoedd Dolgellau, argyhoeddid ef yn ddwys o'i berygl fel pechadur colledig; ond cymaînt ydyw grym llygredd natur dyn, a dylanwad y gelyn arnom, fel yr ymdrechai trwy feddwdod, a phob digrifwch drygionus arall, ddiffodd yr argyhoeddiadau trymion oedd ar ei feddwl. Ond nid oedd i gael ei ollwng yn rhydd mwyach nes ei dynu i ddiogelwch; a bu orfod iddo cyn hir droi ei wyneb i dŷ Ddnw i ymofyn am esmwythdra, yr hyn nis gallai ei gael yn mhethau y byd. Dygwyddai i'r hybarch Mr. Jones, Dol-y-fonddu, fod yn Nolgellau y waith gyntaf yr aeth i'r Society, a hoffai y trengedig yn fynych adrodd un o ddywediadau y gŵr parchus hwnw wrtho - "Tafl dy hun i'r Gwaredwr mawr fel lwmp o gythraul."

Yn mhen tymhor symudai o'i fro enedigol i dref Gwrexham, lle y priododd yn y flwyddyn 1807; a chyn hir symudai oddiyno i Fanchester. Yma dechreuai ei iechyd adfeilio yn fuan, a chynghorid ef gan y Parch. J. Elias i ddychwelyd yn ôl i Gymru, a symudai ef a'i deulu i ddyffryn hyfryd Clwyd, lle y bu yn byw yn gysurus a defnyddiol am yn agos i 22 o flynyddoedd. Yn mhen yspaid dwy flynedd ar ôl ei ddyfodiad yma, cafodd ei alw i'r swydd bwysig o henuriad yn Eglwys Dduw. Oddiyma symudai i le ar ael y Dyffryn a elwid Capel Prion, lle y treuliodd wyth mlynedd yn rhagor o'i oes yn gyd-henuriad yn eglwys y lle â Ricbard Wynne, Thomas Hughes, a Thomas Parry.

Yn hâf y flwyddyn 1840, symudai ef a'i deulu o Gymru hoff i'r wlad hon. Sefydlai am dymhor byr yn Cincinnati gyda'i fab John, yr hwn a ddaethai drosodd rai blynyddoedd o'i flaen. Tra yn byw yma, cymerodd ei annedd dân yn nhrymder y nos, a chollodd y cwbl oll a feddai, ac o'r braidd y diangodd ef a'i briod oedranus rhag cael eu difa gan y fflamau. Yn ngwyneb y brofedigaeth chwerw hon mewn gwlad ddyeithr, cyfarfu ein cyfaill â'r tiriondeb mwyaf oddiwrth ei gydgenedl, ac yn bennodol oddiwrth yr Americaniaid, a gwnaed y golled i fyny i raddau mawr.

Yn y gwanwyn dilynol, symudai o Cincinnati i Centreville, swydd Gallia, Ohio, lle y treuliai y gweddill byr o'i oes yn ddefnyddiol a chysurus yn mysg ei gydgenedl.

Dechreuid yr afiechyd a derfynodd yn angau iddo trwy annwyd trwm a gafodd wrth wrando pregeth allan yn Nghymanfa Moriah oddeutu naw diwrnod cyn ei farwolaeth. Nid ymddangosai ei anhwyldeb ar y cyntaf ond ysgafn; ond trodd yn fuan yn congestive fever, yr hyn a roddodd derfyn prysur ar ei daith ddaearol. Yr oedd ei afiechyd y dyddiau olaf mor angherddol fel na chafodd hamdden i ddweyd bron ddim o'i deimlad na'i olygiadau yn yr olwg ar y cyfnewidiod mawr oedd o'i flaen; ond yr oedd ei fywyd efengylaidd gwedi rhoddi tystiolaeth yn meddwl pawb a'i hadwaenai ei fod yn Gristion gwirioneddol. Pan ymdaenai y newydd am ei farwolaeth trwy y gymydogaeth, dywedai aml un digrefydd gyda difrifwch, 'Wel yn wir, os aeth neb o'r Methodistiaid i'r nef, mae E. Jones yno yn sicr.'

Yr oedd y brawd trengedig yn un o'r henuriaid mwyaf cymeradwy a defnyddiol a feddem yn yr holl sefydliad hwn. Yr oedd gwedi ei ddonio gan Ben mawr yr Eglwys at y swydd bwysig o fugeilio ac ymgeleddu y praidd. Yr oedd yn nodedig am gyffelybiaethau destlus a phriodol er egluro ei feddwl yn oleu hyd yn nod i'r gwanaf ei ddeall; a mynych, fynych y gwelwyd ef trwy ei ddull siriol a bywiog o ymddyddan, megys yn cynneu tân yn nghanol y gymdeithas eglwysig nes llenwi calon yr holl eglwys a chariad tuag at eu gilydd; ond er môr ddefnyddiol ac anwyl oedd, gwelodd Pen mawr yr Eglwys yn dda ei gipio yn ddisymwth oddiar y maes, ond yr ydym yn llawn hyderus mai nid cyn ei addfedu yn barod i fwynhau Duw mewn gwell gwlad, hyd yn nod na Dyffryn dymunol yr Ohio.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1846.