MR. JOHN JONES, PICATONICA, WISCONSIN.
Mawrth 5ed, 1875, yn Picatonica, Wisconsin yn 75 mlwydd oed, John Jones.Ymfudodd i'r wlad hon at ei blant yn agos i chwe blynedd yn ôl o Talybont, ger Llanrwst, Gogledd Cymru, yn yr hwn le yr huna ei briod.
Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r T.C. ers blynyddoedd.
Gadawodd ar ei ôl 4 o feibion a 2 o ferched.
Hebryngwyd ei ran farwol y dydd canlynol i dŷ ei hir gartref gan dorf luosog. Gweinyddwyd gan y Parchedig John Davies.
J.J.JONES.