MR. MORRIS JONES, BETHANIA, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Rhagfyr 14eg, 1875, bu farw yr hen bererin addfwyn, Mr, Morris Jones, Bethania, Marcy, ger Utica, New York, o fewn tua 12 diwrnod i fod yn 90 mlwydd oed.Tarawyd ef ychydig ddyddiau yn flaenorol gan y parlys mud, a bu farw mewn tawelwch. Ganwyd ef ar ochr Garn Fadryn, plwyf Llaniestyn, Lleyn, swydd Garnarfon yn y flwyddyn 1785. Symudodd i Eifionydd, a phriododd Elizabeth Jones, merch Tynllan, Llanarmon, a chwaer i William Jones, Ffordd yr Afon, ger Utica. Buont yn byw yn Tynygroes, Llanarmon, o fewn pedair milltir i Bwllheli, ac oddiyno ymfudasant i America, 44 o flynyddoedd yn ôl.
Sefydlodd Mr. Jones yn Marcy, lle y daeth yn feddianol ar ffarm; ac yno y bu mewn diwydrwydd hyd ddydd ei farwolaeth. Gadawodd weddw a phump o blant mewn oed. Y dydd Gwener canlynol ymgynullodd yr ardalwyr i'r angladd, ac er fod y diwrnod yn un hynod o dymestlog, daeth tyrfa fawr yn nghyd. Pregethwyd yn y capel yn Saesonaeg gan y Parch, R. G. Jones, D. D.; ac yn Gymraeg gan y Parch. William D. Williams, Deerfield.
Claddwyd yr ymadawedig yn mynwent capel Bethania, ac yn ymyl ei hen gartref. Yr oedd Morris Jones yn ddyn hynaws a chyfeillgar, ac yn grefyddwr dichlynaidd, a gair da iddo gan bawb.