PARCH. THOMAS JONES, DEERFIELD, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Fel y crybwyllwyd yn fyr yn y rhifyn diweddaf, bu y Parch. Thomas Jones farw Rhagfyr 19eg, yn ei anedd-dy ar fryn Deerfield, ger Utica, New York, yn 81 mlwydd oed.Symudodd i'r wlad hon 19 o flynyddoedd yn ôl, o Benygongl, Pantglas, Arfon, ac ymsefydlodd yn Remsen. Yn y cyfamser, symudodd i Floyd - oddiyno i Trenton, ac wedi hyny i Deerfield. Yr oedd yn rhy wael i allu pregethu ers cryn amser; ond bu yn weithgar a diwyd tra y parhaodd ei nerth.
Ymgynullodd tyrfa barchus i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion ar y 23ain, a gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. William D. Williams. Claddwyd y gweddillion yn mynwent Capel y Gulf.
Mae dau fab gartref gyda'r weddw, a dwy ferch yn Nghymru - un yn Nantlle, a'r llall yn yr hen gartref, ger Pantglas.