MR. ROBERT MANUAL, BROOKFIELD, MISSOURI.
Medi 14eg, 1875, yn Brookfield, Missouri, Mr. Robert Manual, yn 46 mlwydd oed.Genedigol oedd o Llanwyllyn, ger y Bala, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon tua 25 mlynedd yn ôl, ac a fu yn byw yn agos i Remsen, New York, am oddeutu naw mlynedd, a thua yr un cyfnod yn Oriskany, New York; a thua phum mlynedd yn ôl fe ymfudodd yn agos i Brookfield, Missouri, lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol ac y trosglwyddwyd ef i fyd mawr yr ysbrydoedd. Ei glefyd oedd math o enynfa yn yr ymysgaroedd, ac ni fu yn glaf ond amser byr.
Fe a'i perchid yn fawr gan ei holl gymydogion fel cymydog tawel, a phob amser yn siriol a chymwynasgar. Y mae ei briod ac un mab a merch mewn galar dwys ar ôl colli priod ffyddlon a thad tyner. "Y rhai y mae yn eu cam y mae yn eu ceryddir."